Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Prosiectau newydd er mwyn ehangu bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt

Wedi'i bostio ar 8 Medi 2020

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau cyllid ar gyfer dau brosiect newydd a fydd yn ehangu bioamrywiaeth ac yn creu cynefinoedd cyfoethocach ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £36,096.70 sydd wedi’i anelu’n benodol at ehangu bioamrywiaeth ger eiddo’r Cyngor a hynny drwy’r Bartneriaeth Natur Leol.

Mae dau bwll yn cynnwys planhigion cynhenid yn cael eu cynnig ar gyfer Coed Plas / Coed Smyrna yng Ngwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy, Llangefni a bydd mynediad ar droed cyfagos ar gael i’r cyhoedd. Bydd y pyllau wedi’u lleoli ger y llwybr sy’n arwain drwy’r coetir a bydd yn helpu i greu cartref ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau yn cynnwys amffibiaid megis llyffantod, brogaod a madfallod dŵr.

Bydd ardaloedd y glaswellt presennol ar y tir ger Llyfrgell Llangefni a Phrif Swyddfeydd y Cyngor hefyd yn cael ei drawsnewid i fod yn ardal o flodau gwylla glawellt hir ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd yr ardal o bwysigrwydd sylweddol wrth iddi gefnogi anifeiliaid sy’n cario paill a bydd yn ffynhonnell o fwyd a chysgod drwy gydol y flwyddyn. Bydd rhywogaethau eraill a fydd yn elwa o’r safle yn cynnwys gwiwerod coch, glas y dorlan a dyfrgwn.

Bydd y ddau brosiect hefyd yn cynnwys plannu rhywogaethau cynhenid sydd fwyaf manteisiol i fywyd gwyllt gan eu darparu â bwyd a chysgod drwy gydol y flwyddyn. Y gobaith yw y bydd y bywyd gwyllt a’r gwyrddni hefyd yn gwella iechyd meddwl a llesiant. Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn ddiweddarach y mis hwn ac y bydd y canlyniadau i’w gweld ddechrau gwanwyn 2021.

Eglurodd y Rheolwr Cynllunio Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig, John Williams, “Rydym yn edrych ymlaen at gael dechrau ar y gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf. Bydd mannau lle mae pobl yn gweithio ac yn teithio drwyddynt i’w gweld yn fwy gwyrdd a, drwy wneud hyn, bydd hyn hefyd yn datblygu bioamrywiaeth a llesiant ein trigolion a staff.”

Ychwanegodd, “Fel Awdurdod Lleol, rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddarparu’r cyllid hwn ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith bositif fydd y prosiectau hyn yn eu cael.”

Ychwanegodd y deilydd portffolio Cynllunio, y Cynghorydd Richard Dew, “bydd y prosiectau hyn yn gwneud defnydd da o gyllid sydd wedi’i anelu’n benodol at wella bioamrwyiaeth ar dir sy’n berchen i awdurdodau lleol. Mae’r prosiectau hyn i’w croesawu gan y byddant hefyd yn cyfrannu at y gwaith sylweddol sydd eisoes yn cael ei wneud gan ein swyddogion er mwyn lleihau ôl-troed carbon y Cyngor Sir.”

Diwedd 08.09.2020


Wedi'i bostio ar 8 Medi 2020