Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ni fydd dosbarthiadau ysgol Ynys Môn yn agor ar 29 Mehefin

Wedi'i bostio ar 19 Mehefin 2020

Ni fydd dosbarthiadau ysgolion Ynys Môn yn agor fel rhan o gynlluniau “Ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi” Llywodraeth Cymru ar 29 Mehefin.

Mae’r penderfyniad wedi’i wneud o ganlyniad i’r cynnydd diweddar mewn achosion positif o’r Coronafeirws ar yr Ynys a’r penderfyniad i gau safle Two Sisters yn Llangefni yn dilyn nifer uchel o achosion positif ymysg y gweithlu.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi “Rydw i wedi pwysleisio o’r dechrau mai iechyd a diogelwch ein plant, staff a chymunedau sy’n gorfod dod gyntaf.” 

“Mae’r nifer cynyddol o ganlyniadau positif ar yr ynys a’r newyddion ddoe am gau ffatri Two Sisters yn Llangefni wedi creu llawer iawn o ansicrwydd a phryder ar yr Ynys.”

“Mae hi’n bosibl, wrth gwrs, y gallem weld cynnydd yn y lefelau trosglwyddo’r feirws yn gymunedol. O ganlyniad, dydw i ddim ar hyn o bryd yn fodlon gweld dosbarthiadau yn cael eu hagor i blant Ynys Môn.”

“O ganlyniad i’r ansicrwydd sy’n bodoli, dwi’n meddwl mai dyma’r peth iawn i’w wneud ac mai dyma’r penderfyniad gorau er mwyn sicrhau diogelwch ein plant, ein staff yn yr ysgolion a’r gymuned ehangach.”

Bu i’r Cyng Llinos Medi hefyd bwysleisio ei gwerthfawrogiad mawr o waith caled parhaol staff ysgolion y Sir.

Diwedd 19.6.20


Wedi'i bostio ar 19 Mehefin 2020