Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Mwy o unedau busnes yn dod i’r hen safle heliport

Wedi'i bostio ar 8 Chwefror 2022

Bydd saith o unedau busnes newydd yn cael eu hadeiladu ar hen safle heliport yng Nghaergybi a hynny er mwyn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth ymhellach ym Mharthau Menter Ynys Môn.

Yn 2019, cyflwynodd y Cyngor Sir gais llwyddiannus am £2.3 miliwn o grant gan yr ERDF (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) drwy Lywodraeth Cymru ac, am y tro cyntaf yn Ynys Môn, cytunwyd ar fenter arloesol ar y cyd – gwerth £1.6m – efo Llywodraeth Cymru ar gyfer y datblygiad newydd ar Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi.

Llwyddodd cam un o’r datblygiad, a gwblhawyd yn 2020, i ddarparu 10 o unedau busnes newydd yn mesur 27,600 troedfedd sgwâr. Mae’r unedau bellach yn cynnwys busnesau a sefydliadau lleol sy’n ehangu.

Arweiniodd llwyddiant y cam cyntaf at swyddogion Datblygiad Economaidd Ynys Môn yn llwyddo i sicrhau menter ar y cyd am gyllid gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd ail gam y datblygiad yn darparu 9,900 troedfedd sgwâr o ardal swyddfeydd, diwydiant ysgafn a storio er mwyn galluogi busnesau i dyfu a darparu cyfleoedd pellach am gyflogaeth ym mharthau menter Ynys Môn.

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, y Deilydd Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr, “Bydd datblygu saith fwy o unedau busnes newydd ar yr Ynys yn helpu i ddarparu busnesau lleol â’r cyfle i ddatblygu. Bydd hefyd yn helpu i greu swyddi newydd o safon ar gyfer trigolion lleol.”

“Mae’r prosiect hwn yn rhan o’n cynllun ehangach ar gyfer datblygu Parth Menter Ynys Môn ymhellach. Bydd yr unedau newydd yn cyd-fynd â’r eiddo busnes blaenorol a ddarparwyd ar yr Ynys gyda chefnogaeth yr UE. Maent hefyd yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella’r isadeiledd economaidd ar yr Ynys er mwyn sicrhau bod busnesau a sefydliadau lleol yn gallu ffynnu.”

Ychwanegodd y Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Richard Dew, “Mae gwaith paratoi wedi dechrau ar y safle er mwyn i’r gwaith adeiladu allu dechrau. Dyma gyfle cyffrous i fusnesau presennol a busnesau newydd ar Ynys Môn ehangu a defnyddio’r unedau busnes newydd hyn. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ymholiadaueiddo@ynysmon.llyw.cymru.”

Mae Wynne Construction wedi eu penodi i adeiladu’r saith uned fusnes newydd ac mae’r gwaith adeiladu wedi’i drefnu i ddod i ben erbyn gaeaf 2022.

Dywedodd Gweinidog dros Ogledd Cymru: “Rwyf yn falch o weld y datblygiad newydd hwn yn digwydd yng Nghaergybi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd unedau fel hyn yn chwarae rôl allweddol yn y cyfnod adfer yn dilyn y pandemig Covid-19. Byddant yn darparu lle gwerthfawr i fusnesau allu sefydlu eu hunain a thyfu ar yr Ynys tra’n darparu cyfleoedd am swyddi yn yr ardal leol.”

Eglurodd Steve Davies, Cyfarwyddwr Adeiladu, Wynne Construction: “Bydd y saith uned newydd yn ychwanegiadau i’r ddarpariaeth adwerthu a busnes a fydd yn cael eu croesawu ym Mhenrhos ac ar gyfer y gymuned leol. Drwy gydol y cyfnod adeiladu, byddwn yn edrych i adael etifeddiaeth o swyddi a chyfleoedd gwaith gan weithio gyda’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol ac ymgysylltu ag ysgolion er mwyn arddangos yr amrywiaeth eang ac amrywiol o swyddi sydd ar gael o fewn y diwydiant adeiladu.”

Am fwy o wybodaeth neu er mwyn cofrestru diddordeb mewn prydlesu’r unedau, cysylltwch â ymholiadaueiddo@ynysmon.llyw.cymru.

Diwedd 8 Chwefror 2022


Wedi'i bostio ar 8 Chwefror 2022