Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Mannau gwefru cerbydau trydan cyflym wedi’u gosod yn nhrefi Ynys Môn

Wedi'i bostio ar 2 Awst 2022

Mae mannau gwefru cerbydau trydan (CT) Cyflym newydd ar gael yn awr i’r cyhoedd eu defnyddio mewn pump o feysydd parcio’r cyngor sir.

Mae’r mannau gwefru CT cyflym dau ben wedi’u gosod mewn meysydd parcio yn Amlwch, Caergybi, Llangefni a Phorthaethwy.

Mae’r cyngor sir wedi sicrhau cyllid Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pedwar o’r pwyntiau gwefru. Defnyddiwyd cyllid mewnol i sicrhau pwynt CT ychwanegol yn y pumed lleoliad.

Bydd prosiect peilot yn cefnogi nod yr awdurdod i gyflawni statws sero net erbyn 2030.

Mae gosod mannau gwefru CT Cyflym yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol y Cyngor i ddiwallu gofynion gwefru ei drigolion ac ymwelwyr â’r ynys – yn unol â Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru Llywodraeth Cymru.

Wrth gyflawni'r prosiect bu'r cyngor sir yn gweithio'n effeithiol gyda nifer o gwmnïau gan gynnwys Alun Griffiths, SP Energy Networks a Swarco.

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, Huw Percy, “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ddarparu’r cyllid ar gyfer y prosiect peilot hwn. Mae’r prosiect yn newyddion da iawn ar gyfer trigolion ac ymwelwyr. Mae’n golygu y bydd gan yrwyr ceir trydan well mynediad yn awr at wefrwyr CT cyflym ledled yr ynys. Mae gosod y mannau gwefru hyn mewn lleoliadau strategol yn rhan hanfodol o gynllun gwefru cerbydau trydan y cyngor.”

Ychwanegodd, “Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i wneud cymaint o waith ag y gallwn i ddarparu rhwydwaith o fannau gwefru CT ledled Ynys Môn. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cerbydau trydan ar ein ffyrdd yn Ynys Môn ac mae hynny’n amlygu’r angen am ragor o fannau gwefru CT ar draws yr Ynys. Mae gosod mannau gwefru ar y safleoedd hyn yn fan cychwyn i’n taith, ac rydym yn gobeithio y bydd rhagor o fannau gwefru yn cael eu gosod yn y dyfodol i wella isadeiledd ymhellach ledled yr ynys.”

Mae taclo newid yn yr hinsawdd yn flaenllaw yng ngwaith y cyngor sir a’i benderfyniadau. Yn ddiweddar, cymeradwywyd ei gynllun uchelgeisiol newydd i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Bydd y Cynllun Tuag at Sero Net 2022-2025 yn darparu ymateb gydlynus gan y cyngor i newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â hyrwyddo newid mewn diwylliant i sicrhau fod gwasanaethau’n torri’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr cyn belled â phosib.

Dywedodd deilydd portffolio Priffyrdd, y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, “Rydw i wrth fy modd fod y mannau gwefru cerbydau trydan newydd yma ar gael i bobl eu defnyddio yn awr. Mae buddsoddi mewn darpariaeth gwefru CT yn rhan bwysig o ymrwymiadau newid hinsawdd y cyngor. Yn barod, mae nifer y mannau gwefru CT fesul y pen o’r boblogaeth ymysg yr uchaf yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad ydym yn llaesu ein dwylo a’n bod yn parhau i wella’r ddarpariaeth ledled yr ynys.”

Ychwanegodd y deilydd portffolio Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Nicola Roberts, “Rydym yn ymrwymedig i helpu pobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld ag Ynys Môn i leihau eu hallyriadau carbon. Mae darparu isadeiledd gwefru hygyrch a dibynadwy yn rhan bwysig o’n cenhadaeth i gyflawni statws sero net erbyn 2030.”

“Hoffwn ddiolch i swyddogion y cyngor am lwyddo i sicrhau cyllid i wella’r ddarpariaeth wefru ar yr Ynys. Gyda gobaith, bydd hyn yn golygu y bydd yn llawer haws i drigolion a busnesau newid i gerbydau allyriadau isel iawn.”

Mae’r mannau gwefru CT newydd wedi’u lleoli yn y meysydd parcio cyhoeddus canlynol sy’n cael eu gweithredu gan y cyngor:

Amlwch: Maes Parcio Noddfa

Caergybi: Maes Parcio Ffordd Victoria

Llangefni: Maes Parcio Iard Stesion & Maes Parcio Neuadd y Dref

Porthaethwy: Maes Parcio safle y Llyfrgell

Diwedd 2 Awst 2022


Wedi'i bostio ar 2 Awst 2022