Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymeradwyo cais am arian sylweddol i adfywio Caergybi

Wedi'i bostio ar 18 Ionawr 2023

Mae cais am arian sylweddol fydd yn helpu i adfywio canol tref Caergybi ac yn hybu ei ffyniant wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU.

Cyflwynodd Cyngor Sir Ynys Môn gais gwerth miliynau o bunnoedd i’r Gronfa Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) ym mis Awst 2022.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw (Dydd Iau, 19 Ionawr) fod cais Caergybi ymysg y rhai llwyddiannus yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol.

Bydd cais “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” yn helpu i atal dirywiad canol y dref a dod â’r balchder yn yr ardal yn ôl i drigolion. Bydd yn helpu i drawsnewid y dref drwy sicrhau gwerth £22.5 miliwn o fuddsoddiad, gan gynnwys £17 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro, a byddai’n darparu dros £54 miliwn o fuddion i’r gymuned leol.

Roedd y cais yn cynnwys pecyn cyffrous o brosiectau er mwyn cynyddu cyflogaeth; gwella’r hyn sydd gan ganol y dref i’w gynnig a gwella profiadau ymwelwyr; cynyddu’r nifer o bobl sy’n cerdded ac yn gwario yn y stryd fawr a darparu lleoliad modern er mwyn bodloni anghenion busnes a chynyddu mynediad i’r celfyddydau, diwylliant a hamdden.

Fel tref fwyaf yr ynys, mae Caergybi yn cynnwys rhai o’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Bydd y cais llwyddiannus yn gweld asedau lleol allweddol yn cael eu hehangu er mwyn gwneud yr ardal yn well lle i fyw ac ymweld ag ef.

Roedd cais Caergybi wedi’i alinio’n ofalus ag amcanion Papur Gwyn y Gronfa Ffyniant Bro ac fe’i hystyriwyd fel yr unig un oedd â chyfle realistig o dderbyn cefnogaeth ac o lwyddo yn y broses ymgeisio gystadleuol.

Bu Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caergybi, Môn CF, Canolfan Celfyddydau Ucheldre a’r Eglwys yng Nghymru i ddeall anghenion yr ardal a chyflwyno pecyn o ymyraethau yng Nghaergybi a’r cyffiniau.

Mae Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir a’r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, wedi croesawu’r newyddion am y cais llwyddiannus i’r Gronfa Ffyniant Bro.

Dywedodd y Cynghorydd Jones, “Mae hyn yn newyddion gwych i dref Caergybi, Ynys Cybi ac Ynys Môn. Roedd ein cais wedi’i ystyried yn ofalus gyda’r bwriadu o fanteisio ar gyfleoedd y Gronfa Ffyniant Bro, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau a chyfleoedd pobl leol.”

“Bu i ni weithio’n ofnadwy o agos gyda’n partneriaid am bron i flwyddyn i ddatblygu eu syniadau a pharatoi cais cryf fyddai’n bodloni holl ofynion Llywodraeth y DU.”

Ychwanegodd, “Mae’r cadarnhad heddiw gan Lywodraeth y DU yn gam mawr tuag at adfywiad Caergybi, gyda buddion yn lledu ar draws yr ynys gyfan.”

Roedd Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn falch o hyrwyddo'r cais, a dywedodd, "Mae hon yn fuddugoliaeth anferthol i Gaergybi ac rwyf wrth fy modd bod arian Llywodraeth y DU yn dod i’n hynys ni i wneud gwir wahaniaeth i fywydau trigolion.

Bydd y £17 miliwn yma yn ein helpu ni i greu swyddi, buddsoddi a meithrin ymdeimlad o falchder cymdeithasol ac adfywiad diwylliannol. Ni allaf feddwl am unrhyw dref sydd yn fwy haeddiannol o’r cyfle hwn a’r cyfanswm o £54 miliwn o fuddion a ddaw yn ei sgil.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r cais, ond yn arbennig i Gyngor Tref Caergybi am ei ymrwymiad i’r prosiect. Drwy gydweithio rydym wedi cyflawni cymaint, a dylem ymfalchïo yn y bartneriaeth hon o gynghorau, gwleidyddion, busnesau, sefydliadau a’r sector preifat.

Ychwanegodd, “Dyma wawr newydd i Gaergybi. Ni fydd yn llwyddo i leddfu pob un o’n heriau, ond bydd yn golygu y cawn gymryd camau breision i’r cyfeiriad cywir."

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn rhaglen gyllid gystadleuol sy’n cael ei asesu a’i gweinyddu gan Lywodraeth y DU. Awdurdodau Lleol yw’r unig gyrff sy’n gallu cyflwyno ceisiadau i’r gronfa sy’n ymwneud â thair prif flaenoriaeth; cefnogi adfywiad canol trefi a’r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol ac asedau diwylliannol a threftadaeth.

Cafodd y cais “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” ei gyflwyno yn dilyn proses mynegiant o ddiddordeb cychwynnol ac yn dilyn rhoi ystyriaeth ofalus i’r meini prawf ariannu gan Lywodraeth y DU.

Diwedd 18 Ionawr 2023

Nodiadau i olygyddion

Mae prif elfennau’r cynnig yn cynnwys:

  • Estyniad sylweddol i Ganolfan Gelfyddydau Ucheldre - i ddarparu cyfleusterau gwell a mwy o gapasiti er mwyn galluogi’r sefydliad diwylliannol allweddol hwn i dyfu a chyrraedd mwy o bobl.
  • Adnewyddu Eglwys Cybi Sant, un o brif asedau treftadaeth Caergybi, ynghyd ag Eglwys y Bedd, er mwyn sefydlu hwb cymunedol i helpu pobl leol a dod a mwy o fwrlwm i ganol y dref.
  • Estyniad sylweddol i Gyngor Tref Caergybi a Hwylfan Canolfan Empire – dau o brif atyniadau dan do’r dref, i ymorol am y galw cynyddol a gwella edrychiad Traeth Newry i ddarparu cyfleusterau gwell i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
  • Bydd Môn CF yn rhoi rhaglen ar waith i adfer adeiladau gwag, gan dargedu rhai o’n hadeiladu mwyaf ac amlycaf i greu mannau cymunedol cynaliadwy a bywiog, a sicrhau bod yr adeiladu hyn yn cael eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ymestyn ei raglen Trawsnewid Treflun hynod lwyddiannus i adnewyddu adeiladau treftadaeth er mwyn helpu i ddadwneud y dirywiad yng nghanol y dref.
  • Gwelliannau pellach i Ganolfan Dreftadaeth Parc y Morglawdd, yn cynnwys gwella’r llwybrau a’r ardal gyhoeddus a’r llwybrau a chysylltiadau rhwng y Parc Gwledig a chanol y dref, fel bod mwy o bobl yn cael cyfle i ddysgu am dreftadaeth Caergybi, Ynys Cybi ac Ynys Môn.

Wedi'i bostio ar 18 Ionawr 2023