Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi croesawu dwy garreg filltir hynod o bwysig wrth wireddu cynllun ynni llif llanw arloesol, Morlais.
Mae prosiect Morlais Menter Môn eisoes yn rheoli ardal 35 km2 o wely’r môr ger Ynys Cybi, oddi ar arfordir gorllewinol Môn. Mae ganddo’r potensial i roi’r Ynys ar y map o ran ynni llif llanw a chwarae rhan allweddol o ran uchelgais Ynys Môn i gael ei hadnabod fel yr Ynys Ynni.
Yr wythnos diwethaf (Dydd Gwener, 10 Rhagfyr), cyhoeddodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS, ei bod wedi gwneud y Gorchymyn ar gyfer Parth Arddangos Morlais o dan y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd. Yn ogystal, ddoe (Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr), fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddent yn rhoi trwydded forol i Morlais.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae’r penderfyniadau yma’n ddwy garreg filltir hynod o bwysig i wireddu prosiect Morlais, prosiect arloesol ac y cyntaf o ei fath yng Nghymru. Bydd yn denu datblygwyr technoleg ynni llanw ar draws y byd i arddangos eu dyfeisiadau ym môr yr Iwerddon i’r gorllewin o Ynys Cybi.”
“Fel y cyfeiriwyd ato gan y Gweinidog yn ei llythyr penderfyniad, bydd manteision economaidd-gymdeithasol yn deillio o arallgyfeirio a datgarboneiddio'r cyflenwad ynni yng Ngogledd-orllewin Cymru gan gynnwys swyddi a chyfleodd cadwyn gyflenwi a meithrin sgiliau lleol.”
Mae gan y prosiect Morlais y gallu i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan drwy leoli cyfres o dyrbinau llanw yn y môr oddi ar arfordir Ynys Lawd a hwn fydd un o’r safleoedd ynni llif llanw mwyaf yn y byd.
Mae Morlais yn un o bum prosiect Rhaglen Ynni Carbon Isel Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn datgloi buddion economaidd yn y sector hwn sy'n tyfu.
Ychwanegodd y deilydd portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Rwy’n falch iawn bod y prosiect allweddol yma wedi cael cymeradwyaeth y Gweinidog a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae yn brosiect ynni glân sy’n ticio’r holl flychau i ni yma ar yr Ynys. Mae’n ffurfio rhan bwysig o bortffolio datblygiadau Rhaglen Ynys Ynni ac yn alinio gyda Strategaeth Datgarboneiddio Cymru a’r Deyrnas Unedig.”
“Rwyf eisoes wedi llongyfarch Morlais a Menter Môn sydd wedi gweithio yn ddiflino er mwyn sicrhau bod y prosiect arloesol yma’n derbyn caniatâd angenrheidiol.”
“Os ydym am gyrraedd ein targedau carbon a sicrhau dyfodol gwell i bawb, mae manteisio ar ynni morol glân yma ar Ynys Môn ac ar hyd arfordir Cymru yn hanfodol. Rwyf yn mawr obeithio mai hwn bellach fydd y catalydd mawr y mae'r sector wedi aros yn amyneddgar amdano.”
Mae Morlais wedi derbyn cefnogaeth gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, yn ogystal â Bargen Twf Gogledd Cymru.
Diwedd 15 Rhagfyr 2021