Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cae 3G newydd i agor ym mis Medi

Wedi'i bostio ar 29 Gorffennaf 2022

Bydd cae chwarae 3G newydd sbon gwerth £130,000 yn agor yng Nghanolfan Hamdden Amlwch ym mis Medi.

Bydd y cae newydd yn dod yn lle’r cae pump bob ochr a’r Ardal Gemau Aml-ddefnydd sy’n bodoli yn y Ganolfan Hamdden ar hyn o bryd.

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan grant o £75,000 gan Chwaraeon Cymru a chyfraniad o £55,000 gan y cyngor sir.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd a'r Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Hwn fydd y pedwerydd cae 3G ar yr ynys (yn dilyn buddsoddiad yng Nghanolfan Hamdden David Hughes, Parc Caergybi a Chanolfan Hamdden Plas Arthur), sydd yn amlwg yn amlygu ein hymrwymiad i sicrhau bod cyfleusterau o safon uchel ar gael ar gyfer holl drigolion Ynys Môn.”

Ychwanegodd, “Hoffwn ddiolch i Chwaraeon Cymru am gydnabod pwysigrwydd y prosiect hwn ac am ddyfarnu’r grant i ni. Hoffwn hefyd ddiolch i’n Swyddogion am y gwaith caled wrth baratoi a chyflwyno’r cais grant llwyddiannus.”

Bydd padiau sioc pwrpasol yn cael eu gosod o dan wyneb y cae chwaraeon 3G newydd gan ei wneud yn addas ar gyfer hyfforddiant pêl-droed a rygbi. Bydd y cae hefyd wedi’i farcio ar gyfer hyfforddiant a gemau pêl-droed cerdded.

Eglurodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, Christian Branch, “Bydd y cae 3G newydd yn darparu clybiau lleol, ysgolion a’r gymuned leol â mynediad i le chwaraeon a hyfforddi o’r safon uchaf drwy gydol y flwyddyn, beth bynnag yw’r tywydd – bydd yn ddwbl maint y cae presennol yn y Ganolfan Hamdden.”

Ychwanegodd, “Mae’r prosiect hwn yn amlygu ein hymrwymiad parhaus i wella cyfleusterau hamdden ar draws yr Ynys. Bydd yn darparu trigolion lleol â mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.”

Fel gyda’r caeau 3G eraill ar yr Ynys, bydd y cyfleuster ar gael i’r ysgol uwchradd leol yn ystod y dydd a chlybiau chwaraeon/trigolion gyda’r nos.

Cafodd newyddion bod gwaith ar y prosiect ar fin cychwyn ei groesawu gan gynghorwyr sir ward Twrcelyn, y Cynghorwyr Aled Morris-Jones, Derek Owen a Liz Wood. 

Dywedasant, “Rydym yn falch, fel aelodau lleol, o weld y buddsoddiad yma yn Amlwch. Bydd y cae 3G newydd yma’n adnodd cymunedol pwysig i’r dref a ward Twrcelyn yn ehangach. Gobeithiwn y bydd o fudd i dimau chwaraeon ifanc a hŷn; ac yn cynnig cyfleuster o safon y gall pawb ei fwynhau.”

Bydd cyrtiau tenis y Ganolfan Hamdden hefyd yn cael eu hail-farcio fel rhan o’r prosiect.

Dylid cyfeirio ymholiadau archebu defnydd o’r cae at monactif@ynysmon.llyw.cymru neu Canolfan Hamdden Amlwch.

Diwedd 29 Gorffennaf 2022


Wedi'i bostio ar 29 Gorffennaf 2022