Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Anrhydeddu cyn-gynghorydd yn dilyn anghyfiawnder

Wedi'i bostio ar 6 Rhagfyr 2022

Heddiw (Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr) talodd Cyngor Sir Ynys Môn deyrnged i gyn-gynghorydd yn dilyn anghyfiawnder ofnadwy.

Yn 2006, cafodd cyn is-bostfeistr y Gaerwen, Noel Thomas, ei garcharu ar gam am naw mis wedi iddi ddod i’r amlwg bod arian wedi mynd ar goll.

Y llynedd – ar ôl treulio dros 16 mlynedd yn brwydro i glirio’i enw – cafodd ei euogfarn ef a nifer o is-bostfeistri eraill ei diddymu wedi iddi ddod i’r amlwg mai nam gyda’r system TG a gyflwynwyd gan y Swyddfa Bost oedd ar fai.

Cafodd y Rhybudd o Gynnig gan y cyn-gynghorydd Bob Parry i wahodd Noel Thomas i Siambr y Cyngor i ddiolch iddo’n ffurfiol am ei wasanaeth ffyddlon fel cynghorydd sir ei gefnogi’n unfrydol gan aelodau’r cyngor sir.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Dafydd Roberts, “Roedd Noel Thomas yn aelod lleol poblogaidd a chydwybodol dros ward Llanfihangel Esceifiog ac ni allaf ddychmygu’r hunell y mae ef a’i deulu wedi’i dioddef dros y blynyddoedd diwethaf.”

“Rydym yn falch o gael y cyfle i groesawu Mr Thomas a’i deulu i’r cyfarfod heddiw i’w anrhydeddu a diolch iddo am ei ymrwymiad a’i ymroddiad yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd sir.”

Talwyd teyrnged hefyd i’r cyn-gynghorwyr a benderfynodd roi’r gorau i fod yn gynghorwyr sir cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022 a diolchwyd iddynt am eu gwasanaeth ffyddlon.

Fe ychwanegodd Mr Noel Thomas, “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i mi a fy nheulu ond roedd yn rhyddhad mawr i ni gyd pan gafodd yr euogfarn ei diddymu.”

“Rwyf yn ddiolchgar i’r cyngor sir a’i aelodau etholedig am y gwahoddiad caredig i ddychwelwyd i Siambr y Cyngor; ac rwyf hefyd yn ddiolchgar am yr arwydd o werthfawrogiad am fy nghyfnod yn gwasanaethu pobl ward Llanfihangel Esceifiog.”

Diwedd 6 Rhagfyr 2022


Wedi'i bostio ar 6 Rhagfyr 2022