Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Unwaith mae eich plentyn wedi cychwyn

Gwybodaeth Gofal Plant i Rieni gan Dechrau'n Deg

Amgylchedd gofal plant o ansawdd uchel

Mae’r profiad y bydd eich plentyn yn cael yn y gofal plant yn seiliedig ar athroniaeth y Cyfnod Sylfaen, sydd yn golygu y bydd eich plentyn yn dysgu drwy chwarae a phrofiadau ystyrlon. Bydd y profiad dysgu yn cael eu harwain gan diddordebau eich plentyn ac yn dilyn eu cyfnod datblygu naturiol. Bydd hyn yn paratoi eich plentyn ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr addysgol sydd hefyd wedi’i selio ar athroniaeth y Cyfnod Sylfaen.

Bydd eich plentyn yn cael y dewis i brofi amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys:

  • mwynhau llyfrau, caneuon a rhigymau
  • chwarae gyda thywod a dŵr
  • peintio a chrefftau creadigol
  • chwarae rôl
  • adeiladu
  • byd bach ac aml-synnwyr

Bydd y plant hefyd yn gallu mwynhau dysgu a chwarae yn yr ardaloedd awyr agored. Mae chwarae yn yr awyr agored yn elfen hanfodol i ddatblygiad gan fod y plentyn yn cael rhyddid na all ei brofi o dan do. Mae'n gadael i blant ddatblygu ac i ymarfer eu symudiadau echddygol bras, cymryd risg ac archwilio gweithgareddau ar raddfa fwy a fwy blêr.

Staff gofal plant o ansawdd uchel

Mae holl staff gofal plant Dechrau'n Deg wedi’u cymhwyso neu yn gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan Gyngor Gofal Cymru ac yn unol â rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae pob aelod o staff yn brofiad o weithio gyda phlant ifanc ac mae ganddynt wiriad DGD lefel uwch.

Mae staff yn mynychu o leiaf 5 diwrnod o hyfforddiant sy’n cael eu trefnu gan Athrawes Dechrau'n Deg, mae hyn yn ychwanegol i ofynion hyfforddiant gan Arolygiaeth Gofal Cymru, megis Cymorth Cyntaf pediatrig, diogelu a diogelwch bwyd.

Efallai y bydd lleoliadau yn cau er mwyn i'r staff cael mynd ar hyfforddiant ar y dyddiau hyn. Bydd y lleoliad gofal plant yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw pan fyddant yn cau ar gyfer hyfforddiant.

Hybu ymddygiad positif

Bydd staff gofal plant yn hybu ymddygiad positif mewn ffordd sy’n addas ar gyfer oedran a chyfnod datblygiadol y plentyn.

Mae'n dilyn egwyddorion y rhaglen Nurturing Families er mwyn sicrhau cysondeb gyda'r cwrs sy’n cael ei gynnig i rieni. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddisgyblaeth bositif ac yn ystyried fod plant angen amser i ddysgu pa ymddygiad sydd yn iawn a pha ymddygiad sydd ddim yn iawn a bod plant yn parhau i ddysgu.

Mae'n rhoi sylw i’r hyn maen nhw’n ei wneud yn dda yn hytrach na rhoi sylw ar yr hyn maen nhw wedi’i wneud o'i le. Mae'n parchu hawliau a theimladau y plentyn ac yn helpu iddyn nhw feddwl ac i weithredu drostynt eu hunain.  

Datblygiad iaith a lleferydd

Bydd y lleoliad gofal plant yn defnyddio sgrin o'r enw WellComm i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd eich plentyn. Mae aelod o dîm Dechrau'n Deg wedi ymweld â chi yn barod i weld sut y mae orau i ni gefnogi datblygiad lleferydd ac iaith eich plentyn yn y gofal plant.

Mae’r gefnogaeth yma yn parhau am y flwyddyn y maen nhw gyda ni. Rydym yn edrych ar sut fedrwn ni helpu’r plant i ddysgu iaith, i gyfathrebu'n effeithiol gyda ni fel staff a gyda'i gilydd. Rydym yn defnyddio WellComm fel sgrin i'n helpu i wneud yn si r ein bod yn cefnogi eich plentyn i ddatblygu fel unigolyn.

Byddwn yn trafod y cymorth gyda chi a gallwn awgrymu eich bod yn cael cefnogaeth un-i-un yn y cartref gyda gweithiwr teulu neu drwy gyfeiriad at y gwasanaeth iaith a lleferydd generig.

Presenoldeb ac absenoldeb

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gwneud yn fawr o’u hamser yn y gofal plant. Mae trefn yn bwysig i blant a dylai eich plentyn fynd i’r gofal plant pob dydd. Er bod y gofal plant yn rhad ac am ddim i chi, mae Llywodraeth Cymru yn talu amdano ac rydym yn dilyn polisïau'r ysgol ar gyfer absenoldeb. Mae'r lleoliad gofal plant yn anfon cofrestr presenoldeb wythnosol i'r swyddog gofal plant a'r swyddog monitro.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r ddarpariaeth gofal plant cyn dechrau'r sesiwn os na fydd eich plentyn yn mynychu. Naill ai oherwydd eu bod yn sâl, ar wyliau, neu unrhyw ddiwrnod arall achlysurol i ffwrdd, megis apwyntiad gyda’r meddyg.

Mae gan Gofal Plant bolisi absenoldeb i'w dilyn os na fyddwch chi yn cysylltu â nhw i roi gwybod na fydd eich plentyn yn mynd i'r sesiwn.

  1. Bydd yr Arweinydd yn cysylltu â chi i drafod pam fod eich plentyn heb fod yn y gofal. Os oes gennych bryderon neu os yw eich plentyn yn absennol am unrhyw reswm heblaw am salwch byddant yn trafod hyn gyda chi i weld os oes ffordd i helpu neu i gynnig atebion i chi.
  2. Os yw eich plentyn yn parhau i fod yn absennol ac nid ydym yn gwybod pam, bydd yr arweinydd gofal plant yn rhoi gwybod i’r swyddog gofal plant a fydd yn cysylltu â chi drwy lythyr ac yn rhoi gwybod i’ch ymwelydd iechyd bod eich plentyn wedi bod yn absennol. Bydd yr ymwelydd iechyd yn cysylltu â chi yn uniongyrchol am sgwrs.
  3. Os bydd eich plentyn yn parhau i beidio â mynd i’r gofal ac os yw’r cyfnod absenoldeb yn un hir bydd gofal plant yn cysylltu â’r swyddog gofal plant eto. O dan yr amgylchiadau yma efallai y bydd eich plentyn yn colli ei le yn y lleoliad.

Yn ystod y sesiwn aros a chwarae bydd yr arweinydd gofal plant yn rhoi datganiad pwrpas y gofal plant i chi. Mae hwn yn rhoi gwybodaeth penodol ynglyn â’r lleoliad mae eich plentyn yn mynd iddo.

Gellir lawrlwytho'r un wybodaeth yn fformat y daflen wreiddiol.

Lawrlwytho dogfennau

Efallai na fydd y ffeiliau yma'n hygyrch