Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyn i’ch plentyn gychwyn

Gwybodaeth gofal plant i rieni gan Dechrau'n Deg

Gofal plant o ansawdd uchel gan Dechrau'n Deg

Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae eich plentyn yn gymwys i gael gofal plant sesiynol wedi ariannu gan y Llywodraeth. Bydd gofal yn dechrau’r tymor ar ôl eu ail pen-blwydd tan y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gall eich plentyn fynychu am 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos o’r flwyddyn. Mae tîm Dechrau’n Deg hefyd yn trefnu Diwrnodiau Gweithgareddau i’r teulu i gyd yn ystod gwyliau’r ysgol - cofiwch fod croeso i chi ddod!

Mae lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant o ansawdd uchel. Byddant yn gweithio'n agos gyda chi i hyrwyddo datblygiad eich plentyn - yn addysgol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Dymunwn i bob plentyn deimlo'n ddiogel ac yn hapus, ac wedi’u hysgogi, gydag ymdeimlad diogel a chyfforddus. Rydym am i chi fod yn hyderus bod eich plentyn yn cael y gorau o ran yr hyn sydd gan y lleoliad i’w gynnig. Mae pob lleoliad wedi’u cofrestru ac yn cael eu rheoleiddio gan  Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae pob lleoliad, felly, yn cydymffurfio â’r rheoliadau a safonau gofynnol cenedlaethol a osodir ganddynt. Mae’r lleoliadau oll yn cael eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth, yn ogystal ag i sicrhau bod y gwasanaeth o’r safon uchaf. Mae copi o’r adroddiad arolygu diweddaraf ar gael yn y lleoliad i chi gael ei weld. Mae gan y lleoliad hefyd lyfryn polisïau sydd yn rhoi manylion ar sut mae’r ddarpariaeth yn cael ei rhedeg a sut mae anghenion eich plentyn yn cael eu hateb. Gallwch weld copi, neu gall yr Arweinydd Gofal Plant egluro’r polisïau i chi.

Lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg

Mae gofal plant Dechrau'n Deg ar gael mewn lleoliadau penodol o gwmpas yr ynys. Bydd Swyddog Gofal Plant yn rhoi gwybod i chi pa un bydd eich plentyn yn mynd iddo.

Trefn cyfeirio

Erbyn hyn mae eich plentyn tua 15 mis oed, rydych wedi derbyn ffurflen gyfeirio gan y Swyddog Gofal Plant er mwyn rhoi enw eich plentyn ar restr aros gofal plant. Cofiwch fod y Swyddog Gofal Plant ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych ynglŷn â’ch plentyn yn dechrau yn y  gofal plant.

Ar ôl cwblhau’r ffurflen gyfeirio, byddwch yn derbyn llythyr gan Dechrau'n Deg i gadarnhau bod enw eich plentyn wedi'i roi ar restr aros lleoliad gofal plant.

Sesiynau Aros a Chwarae

Tua mis cyn y dyddiad mae eich plentyn i ddechrau yn y lleoliad, bydd y gofal plant a benodwyd yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i ddwy sesiwn Aros a Chwarae. Mae’r sesiynau hyn yn para tuag awr yr un ac yn gyfle i chi weld sesiwn arferol yn y gofal plant. Yn ogystal cewch chi â’ch plentyn ymuno â’r holl weithgareddau sydd ar gael. Byddwch hefyd yn cyfarfod â’r staff gofal plant, byddan nhw wrth law i ateb eich cwestiynau a rhoi gwybod i chi am drefn y sesiwn.

Bydd yr arweinydd yn cwblhau'r gwaith papur perthnasol gyda chi a chasglu gwybodaeth bwysig eich plentyn. Ni fydd eich plentyn yn gallu cychwyn yn y gofal tan fydd y gwaith papur yma wedi’i gwblhau. Byddwch yn derbyn Datganiad Pwrpas y lleoliad sydd yn amlinellu’r wybodaeth bwysig penodol ar gyfer y lleoliad. 

Gweithio mewn partneriaeth â rhieni

Mae lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg wedi ymrwymo i roi’r canlyniad gorau posibl ar gyfer pob plentyn. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol i wneud hyn yw drwy weithio mewn partneriaeth â rhieni a'u cynnwys yn addysg gynnar eu plentyn.

Rhieni yw’r rhai cyntaf i ddysgu eu plant a nhw yw’r bobl bwysicaf ym mywyd y plentyn. Mae staff gofal plant wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda chi er mwyn gosod trefn cyfathrebu da ac i feithrin perthynas bositif. Rhieni sy'n adnabod y plentyn orau, ac mae gweithio mewn partneriaeth yn helpu’r lleoliad i baratoi'n effeithiol ar gyfer anghenion dysgu pob plentyn.  

Setlo mewn

Bydd sesiynau 'Aros a Chwarae' yn helpu’ch plentyn i setlo yn y gofal plant. Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn mynd â’ch plentyn i’r ddwy sesiwn. Bydd y staff yn gweithio gyda chi i wneud y trefniadau gorau ar gyfer setlo eich plentyn ac i ddiwallu eu hanghenion.

Byddwn yn penodi person allweddol ar gyfer pob plentyn er mwyn datblygu perthynas bositif gyda chi â’ch plentyn. Bydd y person yma hefyd yn cefnogi eich plentyn i ddod yn gyfarwydd a hyderus yn yr amgylchedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddant yn dechrau a phan fydd eich plentyn yn profi cyfnodau trosglwyddo.

Cyfarfodydd trosglwyddo

Cyn bod eich plentyn yn dechrau, ac yna ar ddiwedd pob tymor sy’n dilyn, bydd cyfarfodydd trosglwyddo yn cael eu cynnal rhwng yr Arweinydd Gofal Plant a’r tîm staff Dechrau'n Deg. Mae’r cyfarfodydd yma yn sicrhau bod anghenion eich plentyn yn cael eu diwallu a’n bod ni yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi eich plentyn i gyrraedd eu potensial.

Os byddwn o’r farn y gall cefnogaeth bellach fod o fantais i’ch plentyn bydd yr Arweinydd yn siarad â chi cyn y cyfarfod. Gallwn drefnu cyfarfod llai gyda chi, er mwyn i chi allu dweud wrthym y math o gymorth hoffech chi i'ch plentyn dderbyn a phwy fyddai’r person gorau i wneud hynny. 

Presenoldeb ac absenoldeb

Rydym eisiau gwneud yn siwˆr bod eich plentyn yn gwneud yn fawr o’u hamser yn y gofal plant. Mae trefn yn bwysig i blant a dylai eich plentyn fynd pob dydd. Er bod y gofal plant yn cael ei ariannu gan  Llywodraeth Cymru, rydym yn gorfod dilyn polisïau'r ysgol ar gyfer absenoldeb. Mae'r lleoliad gofal plant yn anfon cofrestr presenoldeb wythnosol i'r Swyddog Gofal Plant a'r Swyddog Monitro.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r ddarpariaeth Gofal Plant cyn dechrau'r sesiwn os na fydd eich plentyn yn mynychu. Naill ai oherwydd eu bod yn sâl, ar wyliau, neu unrhyw ddiwrnod arall achlysurol i ffwrdd, megis apwyntiad gyda’r meddyg.

Yn unol â’n polisi presenoldeb os na ydy eich plentyn yn mynd i ofal plant yn rheolaidd gallwn roi lle eich plentyn i blentyn arall sydd ar y rhestr aros. Cadwch mewn cysylltiad ag Arweinydd Gofal Plant os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl n â gofal plant cysylltwch â’r Swyddog Gofal Plant ar 01407 767786.

Lawrlwytho dogfennau

Efallai na fydd y ffeiliau yma'n hygyrch