Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Effeithlonrwydd ynni eiddo rhent: annomestig

Yn y canllawiau

Y safon ofynnol ar gyfer effeithlonrwydd ynni rhai mathau o eiddo rhent annomestig yw sgôr o E neu uwch

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr

Bwriedir i Reoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) 2015 wella safon effeithlonrwydd ynni yn y sector tai rhent preifat ac annomestig yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r Rheoliadau'n targedu eiddo sydd ar hyn o bryd wedi'u graddio'n F neu G ar eu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC), gan roi mesurau ar waith i godi eu sgôr i leiafswm o E. Bydd hyn yn lleihau'r allyriadau a gynhyrchir drwy wresogi a pweru'r adeiladau hyn, sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am 12% o allyriadau'r DU.

Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â'r gofynion ar gyfer eiddo annomestig (y rhai nad ydynt yn anheddau).

Beth yw'r lefel isaf o effeithlonrwydd ynni?

Mae'r Rheoliadau'n gwahardd gosod eiddo annomestig ansafonol (is na Band E), o dan ddull graddol:

  • ers 1 Ebrill 2018, ni chaiff landlordiaid tai rhent preifat annomestig (gan gynnwys landlordiaid yn y sector cyhoeddus) ganiatáu tenantiaeth i denantiaid newydd na thenantiaid presennol os oes gan eu heiddo radd EPC o Fand F neu G (a ddangosir ar EPC dilys ar gyfer yr eiddo)
  • o 1 Ebrill 2023, rhaid i landlordiaid beidio â pharhau i osod eiddo annomestig a osodir eisoes os oes gan yr eiddo hwnnw radd EPC o Fand F neu G

Pa eiddo sydd wedi'u cynnwys?

Nid yw'r Rheoliadau ond yn berthnasol i'r eiddo hynny y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt gael EPC. Ers 2008, bu'n ofynnol i'r rhan fwyaf o eiddo annomestig gael EPC. Mae eithriadau os yw'r eiddo yn:

  • rhestredig neu eu diogelu'n swyddogol a byddai'r gofynion perfformiad ynni sylfaenol yn ei newid mewn modd annerbyniol
  • adeilad dros dro sydd ond yn mynd i gael ei ddefnyddio am ddwy flynedd neu lai
  • defnyddio fel man addoli neu ar gyfer gweithgareddau crefyddol eraill
  • safle diwydiannol, gweithdy neu adeilad amaethyddol dibreswyl nad yw'n defnyddio llawer o ynni
  • adeilad ar wahân gyda chyfanswm arwynebedd llawr o lai na 50 m2
  • i'w ddymchwel gan y gwerthwr neu'r landlord ac mae ganddynt yr holl ganiatadau cynllunio a chadwraeth perthnasol

Gweler y canllaw 'Tystysgrifau Perfformiad Ynni'  am ragor o fanylion.

Mae landlordiaid preifat, awdurdodau lleol a rhai cyrff cyhoeddus eraill yn cael eu cynnwys, yn ogystal â thenant sy'n isosod eiddo sy'n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau. Nid yw'r Rheoliadau'n berthnasol i eiddo a osodir ar denantiaeth sy'n llai na chwe mis neu'n fwy na 99 o flynyddoedd.

Mae'r Rheoliadau'n cynnwys gofynion tebyg ar gyfer eiddo domestig, er bod dyddiadau cychwyn yn wahanol. Lle bo eiddo o ddefnydd cymysg, o ran ei fod yn cynnwys unedau preswyl a masnachol (megis siop â fflat/fflatiau uwchben), a bod y rhain yn cael eu gosod ar wahân, bydd y darpariaethau perthnasol ar gyfer eiddo domestig yn berthnasol i'r fflatiau, a'r gofynion annomestig i'r siop. Os caiff yr eiddo ei osod yn ei gyfanrwydd, yna bydd angen i'r landlord archwilio'r denantiaeth i benderfynu a yw'n brydles breswyl neu fasnachol.

Beth os yw'r eiddo yn sgôr F neu G ar hyn o bryd?

Os yw EPC yr eiddo ar hyn o bryd yn dangos gradd F neu G, yna rhaid i'r landlord wneud gwelliannau i sicrhau bod yr eiddo yn cyrraedd y raddfa E cyn y dyddiad perthnasol.

Os oes gan y tenant hawl i adnewyddu o dan Ddeddf Landlord a Thenantiaid 1954, nid yw'r Rheoliadau'n ymyrryd â'r hawliau hyn, felly ni all y tenant na'r landlord ddefnyddio'r diffyg cydymffurfio fel cyfiawnhad dros wrthod adnewyddu, neu derfynu'r brydles yn gynnar.

Er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni adeilad mae nifer o welliannau posibl y gellid bod wedi'u hargymell gan yr asesydd ynni sy'n llunio'r EPC, neu gellir eu cael drwy syrfëwr neu gynghorwr effeithlonrwydd ynni arall. Gall hyn gynnwys gwelliannau neu estyniadau i systemau gwresogi ac awyru, inswleiddio, gwydro, ac ati.

Faint fydd yn ei gostio?

Bwriedir i'r Rheoliadau gael dim goblygiadau o ran costau i landlordiaid; yr unig beth y mae'n rhaid iddynt ei wneud yw gwneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni sy'n bodloni'r prawf 'ad-dalu saith mlynedd'. Golyga'r prawf ad-dalu saith mlynedd fod gwerth disgwyliedig yr arbedion ar filiau ynni y disgwylir i'r gwelliant eu cyflawni dros saith mlynedd yn fwy na'r gost o'i ad-dalu.

Mae'n rhaid cyfrifo gwerth arbedion gan ddefnyddio'r fethodoleg gymeradwy, sef y fethodoleg ar gyfer cyfrifo EPCs, a defnyddio prisiau ynni perthnasol. Er nad yw'r Rheoliadau'n nodi pwy ddylai wneud y cyfrifiad, mae canllawiau'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (gweler 'Rhagor o wybodaeth'  isod) yn cyfeirio at "asesydd ynni annomestig cymwys, fel asesydd ynni annomestig achrededig lefel 4 (NDEA)". Gall landlordiaid ddod o hyd i asesydd drwy'r Gofrestr Perfformiad Ynni Annomestig.

Os bydd gwerth arbedion ar filiau ynni, ar ôl cwblhau'r cyfrifiad, yn llai na chost y gwelliant, yna ni fydd yn bodloni'r prawf talu'n ôl, ac felly ni fydd y gwelliant yn welliant perthnasol at ddibenion y ddeddfwriaeth ac ni fydd ofynnol eu gosod.

Fodd bynnag, os yw gwerth yr arbedion yn fwy neu'n gyfwerth â chost y gwelliant, yna bydd yn rhaid i'r landlord wneud y gwelliannau cyn y gellir gosod yr eiddo (oni bai bod eithriadau'n berthnasol).

Mae rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o'r cyfrifiadau wedi'u cynnwys yng nghanllawiau BEIS.

A oes unrhyw eiddo wedi'i eithrio rhag y gofynion?

Mae rhai amgylchiadau lle gall landlord geisio cael ei eithrio o'r gofynion:

  • lle mae'r holl welliannau perthnasol wedi'u gwneud ond bod yr eiddo yn parhau'n is na radd E
  • lle mae eiddo yn is na D ac nad oes unrhyw welliannau y gellir eu gwneud
  • inswleiddio waliau ceudod neu fewnol neu waliau allanol, os yw'r landlord wedi cael cyngor arbenigol (yn ddelfrydol gan bensaer, peiriannydd siartredig neu syrfëwr, ond gall fod yn osodwr annibynnol o'r system inswleiddio) mewn ysgrifen, sy'n nodi nad yw'r mesur briodol gan y bydd yn cael effaith negyddol ar adeiledd neu adeiledd yr eiddo (neu'r adeilad os yw'r eiddo'n ffurfio rhan o adeilad mwy)
  • os yw'r landlord wedi cael cyngor arbenigol ysgrifenedig (yn ddelfrydol oddi wrth bensaer, peiriannydd siartredig neu syrfëwr, ond gall fod yn osodwr annibynnol o'r system inswleiddio), sy'n nodi nad yw inswleiddio waliau ceudod/mewnol/allanol yn briodol gan ei fod yn yn cael effaith negyddol ar adeiledd neu adeiledd yr eiddo (neu'r adeilad os yw'r eiddo'n rhan o adeilad mwy)
  • os oes angen caniatâd trydydd parti cyn gallu gosod gwelliannau - er enghraifft, caniatâd cynllunio ar gyfer paneli solar neu inswleiddio waliau allanol, caniatâd benthycwyr morgeisi neu denantiaid presennol - rhaid i'r landlordiaid wneud pob ymdrech resymol i gael caniatâd. Bydd yr eithriad yn para am bum mlynedd neu tan ddiwedd y denantiaeth (os yw'n ymwneud â chael caniatâd y tenant)
  • pan fo'r landlord wedi cael adroddiad gan brisiwr cofrestredig (ar gofrestr Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) y byddai gosod gwelliannau penodol yn lleihau gwerth yr eiddo ar y farchnad neu'r adeilad y mae'n rhan ohono drwy fwy na 5%. Bydd yr eithriad hwn yn para am bum mlynedd

Mae eithriad hefyd pan fydd person yn dod yn landlord yn sydyn, oherwydd un o'r amgylchiadau isod, a byddai'n amhriodol neu'n afresymol i orfod cydymffurfio ar unwaith:

  • mae prydles wedi'i rhoi o ganlyniad i rwymedigaeth gytundebol
  • mae'r tenant yn mynd yn fethdalwr a'r landlord wedi bod yn gwarantwr y tenant
  • os yw'r landlord wedi bod yn gwarantwr, neu'n gyn-denant, sydd wedi arfer yr hawl i gael prydles bennaf ar eiddo o dan adran 19 o Ddeddf Landlord a Thenant (Cyfamodau) 1995
  • barnwyd bod prydles newydd wedi'i chreu drwy weithredu'r gyfraith
  • mae prydles newydd wedi'i rhoi o dan ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954
  • mae prydles newydd wedi'i rhoi gan orchymyn llys, ac eithrio o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1954

O Ebrill 2023, gall landlord ddefnyddio'r eithriad hwn hefyd os cafodd ei osod ar denantiaeth a oedd yn bodoli eisoes wrth brynu buddiant yn yr eiddo. Mae'r eithriad hwn yn para am chwe mis.

Sut ydw i'n cofrestru eithriad?

Rhaid i bob eithriad fod wedi'i gofrestru ar Gofrestr Eithriadau'r PRS  (PRS -'Sector Rhentu Preifat').

Gall landlordiaid hunanardystio eu heithriadau a chaiff y gofrestr ei monitro gan awdurdodau lleol fel offeryn gorfodi, a hefyd gan BEIS i fonitro effaith y ddeddfwriaeth. Mae mynediad i'r cyhoedd at rywfaint o wybodaeth, gan gynnwys cyfeiriadau at eiddo lle mae eithriadau wedi'u cofrestru, enwau landlordiaid (ac eithrio lle mae'r landlord yn unigolyn), natur yr eithriadau, yn ogystal a thystysgrifau EPC dilys ar gyfer eiddo.

Er mwyn cofrestru, bydd angen i landlordiaid gael manylion am gyfeiriad yr eiddo, pa eithriadau sydd i'w cofrestru ac EPC dilys ar gyfer yr eiddo. Yn dibynnu ar yr eithriad y gofynnir amdano, bydd y landlord hefyd angen unrhyw gyngor arbenigol neu adroddiadau ysgrifenedig sy'n darparu tystiolaeth i gefnogi'r rheswm dros yr eithriad.

Gall yr EPC ar gyfer eiddo gael ei drosglwyddo os gwerthir yr eiddo; fodd bynnag, ni fydd unrhyw eithriadau cofrestredig yn cael eu trosglwyddo a byddant yn peidio â bod yn gymwys unwaith y caiff yr eiddo ei werthu.

Rhagor o wybodaeth

Mae BEIS wedi cynhyrchu dogfennau canllaw ar gyfer landlordiad ar gyfer pob math o eiddo ac mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar eithriadau PRS a gofynion tystiolaeth Cofrestr Eithriadau'r PRS.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a all gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.

Ddeddfwriaeth allweddol

Deddf Landlord a Thenantiaid 1954

Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007

Rheoliadau Adeiladu 2010

Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012

Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Medi 2019

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.