Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Safonau masnach - arolygiadau a grymoedd

Yn y canllawiau

Sut y mae swyddogion safonau masnach yn sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â chyfraith safonau masnach, gan gynnwys eu pwerau i ymweld â busnesau ac i gymryd camau gorfodi ffurfiol

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr

Mae pobl sy'n gweithio i wasanaethau safonau masnach yn cael eu cyflogi gan eich awdurdod lleol (cyngor) ac maent wedi'u hawdurdodi i gyflawni eu swyddogaethau i orfodi deddfau safonau masnach. Mae teitlau swyddi a chymwysterau yn amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol a rhwng gwahanol swyddogaethau, ond at ddibenion y canllaw hwn cyfeirir atynt fel swyddogion safonau masnach.

Mae gwasanaethau safonau masnach yn gorfodi'r gyfraith ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys:

  • cynhyrchion dan gyfyngiad oedran
  • amaethyddiaeth
  • iechyd a lles anifeiliaid
  • masnachu teg, sy'n cynnwys:
    • prisio
    • disgrifiadau o nwyddau, cynnwys digidol a gwasanaethau
    • telerau ac amodau
  • safonau a diogelwch bwyd (nid yw rhai mathau o wasanaethau safonau masnach, gan gynnwys bwrdeistrefi Llundain, yn gorfodi cyfraith bwyd)
  • petrol a storio tân gwyllt
  • eiddo deallusol (er enghraifft, ffugio)
  • diogelwch cynnyrch
  • pwysau a mesurau

Pam eu bod yn ymweld â mi?

Mae gwasanaethau safonau masnach yn ymweld ag adeiladau busnes am nifer o resymau, ond pwrpas sylfaenol ymweliad yn gyffredinol yw gwirio a sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio â'r gyfraith yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw ddiffyg cydymffurfio neu ymchwilio iddo. Mae gwasanaethau safonau masnach yn dilyn dull sy'n seiliedig ar gudd-wybodaeth, lle mae'r penderfyniadau am weithgareddau gorfodi yn cael eu llywio gan ddadansoddiad o wybodaeth o lawer o ffynonellau, gan gynnwys cwynion a hanes blaenorol busnesau. Gall swyddogion safonau masnach hefyd gynnal archwiliadau o eiddo yn rheolaidd-er enghraifft, yn unol â rhaglen flynyddol o arolygiadau.

Pa bwerau sydd ganddynt?

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan swyddogion safonau masnach bwerau o dan Atodlen 5 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth y maent yn ei gorfodi, bydd ganddynt bwerau ychwanegol neu bwerau sydd ychydig yn wahanol. Mae prif bwerau swyddogion safonau masnach yn cynnwys y pwer i fynd i mewn i fangre, pwerau arolygu a phwerau i sicrhau neu atafaelu deunydd y gallai fod ei angen fel tystiolaeth:

  • caiff swyddogion safonau masnach ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i fangre i arsylwi ar fusnes yn cael ei redeg, i archwilio nwyddau neu ddogfennau, i brofi offer pwyso neu fesur, neu i wneud pryniant prawf. Gall gwrthod mynediad i swyddog safonau machnach gael ei ystyried yn drosedd
  • gall swyddog safonau masnach fynd i mewn i'ch cartref, neu unrhyw fangre arall a ddefnyddir yn unig neu'n bennaf fel cartref, ond dim ond â gwarant a roddir gan lys. Gall swyddog safonau masnach hefyd gael gwarant i fynd i mewn i unrhyw safle drwy rym os oes angen, a gellid gwneud hyn, er enghraifft, lle y disgwylir y bydd mynediad yn cael ei wrthod neu ei rwystro
  • os yw'r mynediad ar gyfer arolygiad rheolaidd yna mae'n rhaid i'r swyddog safonau masnach roi dau ddiwrnod o rybudd ysgrifenedig i chi o'r archwiliad cyn dod i mewn i'ch safle. Fodd bynnag, nid oes angen hysbysiad:
    • os ydych wedi hepgor yr angen i'w roi i chi
    • os oes gan y swyddog safonau masnachamheuaeth resymol eich bod wedi torri'r gyfraith
    • byddai rhoi rhybudd yn mynd yn groes i bwrpas yr ymweliad
    • nid yw'n ymarferol rhoi rhybudd i chi (er enghraifft, mae risg sydd ar fin digwydd i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd)
    • mae'r cofnod at ddibenion gweithgareddau goruchwylio'r farchnad o dan ddeddfwriaeth ddiogelwch Ewropeaidd benodol
  • os amheuir bod cyfraith safonau masnach wedi'i thorri, gall y TSO ymafael mewn nwyddau a dogfennau

Sut fydda i'n gwybod eu bod nhw'n ddilys?

Dylai swyddog safonau masnach dilys gario adnabyddiaeth ffotograffeg, a fydd fel arfer yn dangos eu henw, adran a'r awdurdod lleol y maent yn gweithio iddo. Os oes gennych unrhyw amheuon yna ffoniwch eich awdurdod lleol yn syth.

A allant gau busnesau?

Na. Nid oes gan wasanaethau safonau masnach unrhyw bwerau uniongyrchol i'ch gorchymyn i roi'r gorau i fasnachu. Fodd bynnag, gallant wneud cais i'r llysoedd am orchmynion, a allai gyfyngu ar eich gweithgareddau.

Beth all wasanaethau safonau masnach eu gwneud i atal busnesau sy'n torri'r gyfraith?

Mae ystod eang o opsiynau ar gael, er eu bod yn amrywio yn dibynnu ar natur yr achos o dorri cyfraith safonau masnach.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae busnesau'n awyddus i gydymffurfio â'r gyfraith ac eisiau osgoi risgiau a threuliau camau gorfodi ffurfiol. Caiff llawer o achosion o dorri cyfraith safonau masnach eu datrys drwy gyngor a chamau adferol y cytunir arnynt gan y busnes (a allai gynnwys newid cynhyrchion, systemau, labelu neu hysbysebu a/neu drefnu i wneud iawn i gwsmeriaid y mae'r tramgwydd wedi effeithio arnynt).

Fodd bynnag, mae opsiynau gorfodi ffurfiol ar gael bob amser i wasanaethau safonau masnach. Yr awdurdod lleol sydd â'r penderfyniad i gymryd camau ffurfiol, ond mae'n debygol y cymerir camau ffurfiol mewn achosion lle y ceir toriad difrifol (o ran y niwed i gwsmeriaid neu i fusnesau eraill drwy fantais gystadleuol annheg) neu pan fydd busnes yn methu ag ymateb i, neu ymgysylltu ag, ymdrechion anffurfiol i sicrhau cydymffurfiaeth.

Gorfodi ffurfiol a chosbau

Mae gan bob gwasanaeth safonau masnach bolisi gorfodi, sy'n esbonio sut y maent yn ceisio sicrhau bod y camau y maent yn eu cymryd yn deg ac yn gymesur. Gallwch ofyn am hyn gan eich awdurdod lleol.

Mae'r prif opsiynau gorfodi ffurfiol yn cynnwys y canlynol:

ERLYN

Mae llawer o achosion o dorri cyfraith safonau masnach yn droseddau a gellir eu herlyn yn Llys yr Ynadon neu Lys y Goron. Gall erlyniad llwyddiannus gael amrywiaeth o ganlyniadau, gan gynnwys y canlynol:

  • bydd gan y masnachwr gofnod troseddol
  • cosb neu ddedfryd. Fel arfer gellir cosbi troseddau safonau masnach â dirwy, ac mewn llawer o achosion mae'r swm yn ddiderfyn. Ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol mae carcharu yn opsiwn, gydag uchafswm cyfnodau o hyd at ddwy flynedd ar gyfer rhai troseddau safonau masnach. Pan erlynir busnes am dwyll, dwyn neu gwyngalchu arian yn ychwanegol at neu yn lle troseddau safonau masnach, neu am droseddau o dan gyfraith eiddo deallusol (nodau masnach a hawlfraint), gall uchafswm cosbau fod yn uchel iawn (hyd at 14 mlynedd o garchar)
  • gorchymyn i dalu iawndal i ddioddefwyr
  • gorchymyn i dalu costau'r ymchwiliad a'r erlyniad
  • 'gorchymyn ymddygiad troseddol' sy'n cyfyngu ar ymddygiad yn y dyfodol (er enghraifft, gwaharddiad ar wneud contractau yng nghartrefi defnyddwyr)
  • anghymhwyso fel cyfarwyddwr cwmni (lle roedd y drosedd yn gysylltiedig â chwmni) neu rhag gyrru (lle mae rheswm da-er enghraifft, lle roedd y drosedd yn cynnwys gyrru gwael neu a hwyluswyd gan ddefnydd cerbyd)
  • atafaelu asedau ac arian o dan ddeddfwriaeth enillion o droseddau
  • fforffedu unrhyw nwyddau anghyfreithlon neu rai sy'n torri ac unrhyw offer a ddefnyddir wrth gyflawni'r tramgwydd

RHYBUDD SYML

Rhybudd ffurfiol yw hwn, a allai gael ei gynnig fel dewis arall yn lle erlyn, os yw hynny er budd y cyhoedd.

Nid oes rheidrwydd ar wasanaethau Safonau Masnach i gynnig rhybuddiad, ond efallai y byddai'n cael ei gynnig ar gyfer troseddu tro cyntaf cymharol ddibwys.

GORCHMYNION GORFODI

Ar gyfer amrywiaeth o achosion o dorri'r rheolau, gall gwasanaethau safonau masnach wneud cais i'r llys sirol neu i'r uchel lys am orchymyn gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r busnes gydymffurfio â'r gyfraith. Gall hyn gynnwys y canlyniadau canlynol:

  • y gorchymyn ei hun. Mae torri'r gorchymyn yn ddirmyg llys, sydd yn dwyn y gosb uchaf o ddirwy a dwy flynedd o garchar
  • gorchymyn i weithredu 'mesurau cryfach i ddefnyddwyr', gan gynnwys newidiadau i brosesau busnes a thalu iawndal i ddioddefwyr
  • gorchymyn i dalu costau'r ymchwiliad a'r achos llys
  • gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i'r gorchymyn

YMRWYMIAD

Addewid ffurfiol yw hyn gan y busnes i gydymffurfio â'r gyfraith a, lle bo'n briodol, i gymryd mesurau gwell i ddefnyddwyr.

Nid oes rheidrwydd ar wasanaethau safonau masnach i dderbyn ymrwymiad, ond efallai y derbynnir os yw'n ymddangos bod y busnes yn ymrwymo i wneud iawn.

HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO

Mewn rhai achosion, gall gwasanaethau safonau masnach gyhoeddi rhybudd yn gofyn i'r busnes weithredu neu i roi'r gorau i wneud rhywbeth, heb fod angen gwneud cais i'r llys am orchymyn. Mae gan yr hysbysiadau hyn enwau gwahanol a gwahanol amodau gan ddibynnu ar y gyfraith y cânt eu gwneud oddi tanynt.

Yn gyffredinol bydd dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad. Os bydd busnes yn methu â chydymffurfio â hysbysiad, gall hyn arwain at achos llys; os yw'r busnes yn anghytuno efo defnyddio'r hysbysiad, fel arfer bydd cyfle i wneud cais i'r llys neu i dribiwnlys i apelio yn ei erbyn.

Mae hysbysiadau cydymffurfio ar gael o dan ystod o gyfreithiau, gan gynnwys safonau bwyd, iechyd anifeiliaid, diogelwch cynnyrch, pwysau a mesurau, a masnachu teg.

COSBAU GWEINYDDOL

Mewn rhai achosion, gall gwasanaethau safonau masnach gyhoeddi hysbysiad cosb yn gofyn i fusnes gymeryd camau neu i stopio a gwneud rhywbeth penodol, heb yr angen i wneud cais i'r llys am orchymyn.

Mae hysbysiadau o'r fath ar gael o dan ystod o ddeddfwriaethau, gan gynnwys cyfreithiau sy'n ymwneud ag asiantau gosod, tocynnau eilaidd, bagiau siopa untro ac (mewn rhai ardaloedd) gwerthu alcohol o dan oedran.

Fel arfer, gall y busnes apelio i'r llys neu i dribiwnlys yn erbyn defnyddio hysbysiad o'r fath neu yn erbyn lefel y gosb a osodwyd.

A all gwasanaethau safonau masnachu ymyrryd i wneud iawn i ddefnyddiwr?

Ni all gwasanaethau safonau masnach orchymyn gwneud iawn i ddefnyddwyr unigol na chymryd camau cyfreithiol ar eu rhan, er y gallant gynnig cyngor a chymorth i ddefnyddwyr sy'n gwneud eu ceisiadau eu hunain yn y llys neu drwy wasanaeth datrys anghydfodau amgen (gweler 'Dulliau amgen o ddatrys anghydfod').

Fodd bynnag, os ceir erlyniad neu os gwneir cais am orchymyn gorfodi, gall gwasanaethau safonau masnach wneud cais am orchymyn llys sy'n gofyn am iawndal.

Yw gwasanaethau safonau masnach yno i ddiogelu defnyddwyr yn hytrach na busnesau?

Na. Er mai bwriad y rhan fwyaf o gyfraith safonau masnach yw diogelu defnyddwyr, mae torri cyfraith safonau masnach yn rhoi busnesau gonest, dibynadwy sy'n cydymffurfio o dan anfantais. Hefyd, mae gwasanaethau safonau masnach yn gorfodi deddfwriaeth sy'n diogelu busnesau (fel y Rheoliadau Diogelu Busnes Rhag Marchnata Camarweiniol 2008, a gwmpesir yn y canllaw 'Marchnata busnes i fusnes') ac yn rhoi cyngor i fusnesau. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i roi sylw i ddymunoldeb hybu twf economaidd yn eu hardal, ac felly mae gwasanaethau safonau masnach yn awyddus i hyrwyddo busnesau llwyddiannus sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Prif Awdurdod

Mae Prif Awdurdod yn gynllun sy'n cael ei redeg gan awdurdodau lleol i gynnig cyngor i fusnesau. Am ragor o wybodaeth gweler 'Prif Awdurdod'.

Gwybodaeth bellach

Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS, a elwid yn Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ar y pryd) wedi cynhyrchu canllawiau manwl ar sut y mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn effeithio ar bwerau swyddogion safonau masnach: Pwerau ymchwilio'r i orfodwyr cyfraith defnyddwyr : canllawiau i fusnesau ar Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Mae BEIS hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar y ' mesurau defnyddwyr gwell ' a gyflwynwyd gan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015: Mesurau defnyddwyr gwell: Canllawiau ar gyfer gorfodwyr cyfraith defnyddwyr. Fel mae teitl y ddogfen yn ei awgrymu, anelir yn bennaf at swyddogion safonau masnach ond gallai hefyd fod o ddiddordeb i fusnesau yn eu deliadau â gwasanaethau safonau masnach.

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Menter 2002

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 2020

 

 

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.