Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Gwerthu a llogi recordiadau fideo a gemau

Yn y canllawiau

Mae angen i chi ddeall y gofynion labelu ac oedran gwerthu ar gyfer cyflenwi, llogi neu gyfnewid pob math o fideos a gemau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Mae Deddf Recordiadau Fideo 1984 (a gafodd ei diddymu a'i hadfywio gan Ddeddf Recordiadau Fideo 2010) yn rheoleiddio gwerthu, llogi, cyfnewid a benthyg pob gwaith fideo-gan gynnwys gemau fideo-sydd ar gael i'r cyhoedd ar DVD, blu-ray neu unrhyw ddyfais arall sy'n gallu storio data yn electronig, oni bai bod y cyflenwad neu'r gwaith fideo yn 'eithriedig'. Mae Deddf Recordiadau Fideo 1984 yn gosod nifer o droseddau.

Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) sy'n gyfrifol am ddosbarthu gweithiau fideo. Gyda rhai mân eithriadau, y Cyngor Safonau Fideo (VSC) sy'n gyfrifol am ddosbarthu gemau fideo.

Rhaid i fanwerthwyr gymryd sylw o'r holl ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i werthu, llogi, cyfnewid a benthyca gwaith fideo a gemau er mwyn osgoi cyflawni troseddau, a chydymffurfio â hwy; mae rhestr o ddeddfwriaeth berthnasol arall a orfodir gan safonau masnach wedi'i chynnwys yn y canllaw hwn.

Dosbarthiad

Mae'r BBFC wedi'i ddynodi fel yr awdurdod sy'n gyfrifol am ddosbarthu gwaith yn ôl y deunydd y mae'n ei gynnwys (ymddygiad troseddol, rhyw, trais, iaith ddrwg, cyffuriau ac ati) ac ar gyfer rhoi neu wrthod tystysgrifau dosbarthu. Bydd y dystysgrif ddosbarthu yn cynnwys datganiad, megis:

  • bod y gwaith fideo yn addas i'w wylio'n gyffredinol a chyflenwad anghyfyngedig
  • mae'r gwaith fideo yn addas i'w weld gan bobl o oedran penodedig (dim mwy na 18) a rhaid peidio â'u cyflenwi i unrhyw un o dan yr oedran penodedig
  • mae'r gwaith fideo yn addas i'w weld gan bobl o oedran penodedig (18-addas ar gyfer oedolion yn unig) ac ni ddylid eu cyflenwi i unrhyw un o dan yr oedran penodedig
  • gellir cyflenwi'r recordiad fideo sy'n cynnwys y gwaith fideo mewn siop ryw drwyddedig yn unig i oedolion

Y VSC (gan ddefnyddio'r enw Bwrdd Ardrethu VSC) yw'r awdurdod dynodedig sy'n gyfrifol am ddosbarthu gemau fideo gan ddefnyddio'r system gwybodaeth gemau pan-Ewropeaidd (PEGI). Dosberthir gemau fideo yn 12, 16 a 18 yn ôl cynnwys y gêm fideo. Cynghoriad yw unig fwriad gemau fideo sy'n derbyn gradd 3 neu 7. Mae'r BBFC yn cadw'r cyfrifoldeb am ddosbarthu gemau fideo lle mae'r cynnwys yn gwarantu dosbarthiad R18 (oherwydd mwy o gynnwys rhywiol eithafol) neu ble mae'r gêm fideo yn gêm fach sy'n cael ei chynnwys ar ddisg sy'n ffilm yn bennaf.

Mae gwaith fideo a gemau fideo wedi'u heithrio o'r dosbarthiad os mai eu diben yw hysbysu, addysgu neu gyfarwyddo, neu os ydynt am chwaraeon, crefydd neu gerddoriaeth. Fodd bynnag, caiff eu cynnwys ei ystyried wrth benderfynu a oes angen ei ddosbarthu - er enghraifft, os yw gwaith fideo neu gêm fideo yn cynnwys trais, negeseuon rhywiol, ymddygiad tramgwyddus neu wahaniaethol, alcohol, tybaco neu gyffuriau anghyfreithlon, ni fydd eithriad rhag cael eu dosbarthu. Amod eithriadu pellach ar gyfer gemau fideo yw bod yn rhaid iddynt gael eu gwirio i fod yn addas i'w gweld gan blant dan 12 oed. Mae cyflenwadau o waith fideo eithriedig yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gysylltiedig â gweithgaredd busnes, nid er budd ariannol a'r rhai sy'n recordiadau preifat o ddigwyddiad neu achlysur-fel fideo priodas-a wnaed ar gyfer y bobl hynny sy'n gysylltiedig ag ef.

Mae'r categorïau dosbarthu ar gyfer gwaith fideo fel a ganlyn:

Symbol Symbol newydd o Ebrill 6ed, 2020 Dosbarthiad Dim ond i'w gwerthu i'r sawl sy'n
U Cyffredinol Anghyfyngedig
PG

arweiniad rhieni. Gwylio cyffredinol ond efallai fod rhai golygfeydd yn anaddas ar gyfer plant ifanc

Anghyfyngedig
12 Addas yn unig ar gyfer personau 12 oed a throsodd 12 oed a throsodd
15 Addas yn unig ar gyfer personau 15 oed a throsodd 15 oed a throsodd
18 Addas yn unig ar gyfer personau 18 oed a throsodd 18 oed a throsodd
R18 cyfyngedig 18. I'w ddarparu mewn siopau rhyw trwyddedig yn unig ac i bobl 18 oed a throsodd 18 oed a throsodd mewn siop ryw drwyddedig

Mae'n anghyfreithlon i fanwerthwr werthu recordiad fideo gyda sgôr dosbarthiad BBFC o 12, 15 neu 18 i berson sydd heb gyrraedd yr oedran hwnnw.

Mae'r categorïau dosbarthu ar gyfer gemau fideo fel a ganlyn:

Symbol Dosbarthiad Dim ond i'w gwerthu i'r sawl sy'n
3 Addas ar gyfer pob grwp oedran Anghyfyngedig
7 Fel arfer yn cael ei raddio fel 3 ond efallai na fydd peth o'r cynnwys yn addas ar gyfer plant iau Anghyfyngedig
12 Trais graffig ychydig yn fwy a iaith wael ysgafn. Addas ar gyfer personau sy'n 12 oed a throsodd 12 oed a throsodd
16 Trais graffig, iaith wael, cysyniad o ddefnyddio tybaco, cyffuriau a gweithgareddau troseddol. Addas ar gyfer personau sy'n 16 oed a throsodd 16 oed a throsodd
18 Darluniau o drais gros. Addas ar gyfer personau sy'n 18 oed a throsodd 18 oed a throsodd

Mae system raddio PEGI hefyd yn cynnwys eiconau disgrifydd ar gefn y pecynnu gan ddangos y rhesymau pam mae cynnwys y gêm fideo wedi derbyn dosbarthiad oedran penodol:

Icon disgrifio Eglurhad
Bad language yn cynnwys iaith anweddus
Discrimination darlunio neu'n cynnwys deunydd a allai annog gwahaniaethu
Drugs darlunio neu'n cyfeirio at y defnydd o gyffuriau
Fear allai ddychryn neu godi ofn ar blant ifanc
Gambling yn dysgu neu'n annog gamblo
Online gellir chwarae ar-lein
Sex

sydd â chyfeirnodau rhywiol neu sy'n dangos medrusrwydd a/neu ymddygiad rhywiol

Violence yn cynnwys darluniau o drais

Mae'n anghyfreithlon i fanwerthwr werthu gêm fideo gyda sgôr oedran PEGI o 12, 16 neu 18 i berson sydd heb gyrraedd yr oedran hwnnw.

Labelu

Mae Rheoliadau Recordiadau Fideo (Labelu) 2012 yn pennu'r gofynion labelu ar gyfer recordiadau fideo a gemau fideo.

Rhaid i'r symbol dosbarthiad, yr eicon disgrifio (ar gyfer gemau fideo), teitl unigryw (gan gynnwys y rhif cofrestredig) a datganiad esboniadol (ar gyfer recordiadau fideo), lle bo'n ofynnol gan y Rheoliadau, fod yn ddarllenadwy, yn annileadwy ac nid ynghudd nac yn guddiedig. Mae'r Rheoliadau'n nodi lle mae'n rhaid dangos y symbol dosbarthiad a'r label a'r marciau eicon disgrifio ar y pecyn ar gyfer recordiadau fideo a gemau fideo ac ar y ddisg neu ddyfais electronig arall.

Mae'n anghyfreithlon i fanwerthwr gyflenwi neu gynnig cyflenwi recordiad fideo nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion labelu.

Amddiffynfeydd

Mae amddiffyniadau ar gael os ydych yn cael eich cyhuddo o droseddau o dan Ddeddf Recordiadau Fideo 1984. Mae troseddau o dan adran 11 o'r Ddeddf yn fwyaf perthnasol ar gyfer cynnwys y canllaw hwn ac felly mae'r amddiffyniadau wedi'u nodi isod.

Mae gennych yr amddiffyniad nad oeddech yn ei adnabod, na bod gennych sail resymol i gredu, naill ai:

  • y dystysgrif ddosbarthu yn cynnwys y datganiad mewn perthynas â'r oedran penodedig

... neu

  • nad oedd y person dan sylw wedi cyrraedd yr oedran penodedig

Mae gennych hefyd yr amddiffyniad eich bod gyda sail resymol i gredu bod y cyflenwad wedi'i eithrio, neu y buasai wedi'i eithrio, yn unol â diffiniad y ddeddfwriaeth. Ni all unrhyw recordiad fideo a werthir i'r cyhoedd gan siop, ar-lein, ac ati fod yn gyflenwadau wedi'u heithrio

Mae amddiffyniad cyffredinol i droseddau o dan Ddeddf Recordiadau Fideo 1984, sef eich bod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni trosedd. Felly argymhellir bod gennych systemau ar waith i osgoi cyflawni trosedd; dylid gwirio a diweddaru'r systemau hyn yn rheolaidd. Gweler adran 'Cadw o fewn y gyfraith'  yn y canllaw hwn am ragor o wybodaeth. Yn ogystal â'r amddiffyniad hwn, mae angen dangos hefyd mai gweithred neu fethiant person arall, ac eithrio'r cyhuddedig, oedd yn gyfrifol am y drosedd.

Cadw o fewn y gyfraith

Cyfrifoldeb y masnachwr yw cadw o fewn y gyfraith a chael systemau yn eu lle a fydd yn gweithredu fel amddiffyniad ' diwydrwydd dyladwy '.

Er mwyn cadw o fewn y gyfraith ac bodloni'r amddiffyniadau cyfreithiol, dylech gyflwyno polisi gwirio oedran a bod â systemau effeithiol i atal gwerthiant dan oed. Dylai'r systemau hyn gael eu monitro a'u diweddaru'n rheolaidd yn ôl yr angen i ganfod a datrys unrhyw broblemau neu wendidau, neu i gadw'n wastad ag unrhyw ddatblygiadau mewn technoleg.

Mae nodweddion arfer gorau allweddol system effeithiol yn cynnwys:

GWIRIADAU OEDRAN

Dylech bob amser ofyn i bobl ifanc ddangos prawf o'u hoed. Mae'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, y Swyddfa Gartref, Llywodraeth yr Alban, Cyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr Heddlu a Heddlu'r Alban yn cefnogi'r Cynllun safonau'r prawf oedran (PASS) cenedlaethol sy'n cynnwys nifer o gyhoeddwyr cardiau. Gallwch fod yn hyderus bod cerdyn a roddir o dan y cynllun ac sy'n dwyn hologram PASS yn brawf derbyniol o'ch oedran. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn cefnogi'r cerdyn Young Scot.

Gellir derbyn pasbort neu drwydded yrru cerdyn-llun hefyd, ond gwnewch yn siwr fod y cerdyn yn cyfateb i'r sawl sy'n ei ddefnyddio a bod y dyddiad geni yn dangos ei fod dros 18 oed. Gellir defnyddio cardiau adnabod milwrol fel prawf o'u hoed, ond fel gyda mathau eraill o ddulliau adnabod, gwnewch yn siwr bod y llun yn cyfateb i'r person sy'n cyflwyno'r cerdyn a gofalwch fod ganddo ddyddiad geni. Byddwch yn ymwybodol y gall pobl 16 ac 17 oed ddal cardiau adnabod milwrol.

Nid oes rhaid i chi dderbyn pob un o'r mathau adnabod uchod ac efallai y byddai'n well eithrio unrhyw fath o ddogfen nad yw eich staff yn gyfarwydd â hi.

Gall rhai pobl ifanc gyflwyno cardiau ffug-adnabyddiaeth felly fe'ch cynghorir hefyd i wirio edrychiad a theimlad cerdyn. Er enghraifft, dylai'r hologram PASS fod yn rhan annatod o gerdyn PASS ac nid yn rhywbeth ychwanegol. 

Dylid arddangos posteri sy'n dangos terfynau oedran a chynnwys datganiad ynghylch gwrthod gwerthiannau o'r fath. Byddai hyn wedyn yn atal darpar brynwyr ac yn atgoffa aelodau o staff.

Os na all person brofi eu bod o leiaf dros yr oedran cyfreithiol lleiaf - neu os oes gennych unrhyw amheuaeth - dylid gwrthod y gwerthiant.

Gwelwch Canllawiau adnabod ffug y Swyddfa Gartref i gael rhagor o wybodaeth (mae hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig).

HYFFORDDIANT STAFF

Dylech bob amser arsylwi ar unrhyw gyfyngiadau oedran ar y recordiad fideo a gwneud yn siwr bod eich staff yn gwneud hynny hefyd. Argymhellir bod y ddeddfwriaeth yn cael ei dwyn i sylw'r holl staff drwy hyfforddiant rheolaidd. Mae'n bwysig eich bod yn gallu profi bod eich staff wedi deall yr hyn sy'n ofynnol ganddynt o dan y ddeddfwriaeth. Gellir gwneud hyn drwy gadw cofnod o'r hyfforddiant a gofyn i'r aelod o staff lofnodi i ddweud ei fod wedi'i ddeall. Yna dylai'r rheolwyr neu'r perchennog wirio a llofnodi'r cofnodion hyn yn rheolaidd. 

CYNNAL LOG GWRTHODIADAU

Dylid cofnodi pob gwrthodiad ar dalen neu lyfr gwrthod. Mae system wrthodiadau wedi'i chynnwys mewn rhai tiliau. Bydd cadw cofnod o wrthodiadau yn cryfhau unrhyw amddiffyniad a allai fod gennych. Dylai'r logiau gael eu harchwilio gan y rheolwr/perchennog i sicrhau bod pob aelod o staff yn eu defnyddio.

Mae sbesimen log gwrthod yn atodedig.

Mae system wrthodiadau wedi'i chynnwys mewn rhai tiliau. Os ydych yn defnyddio system wedi'i seilio ar diliau, dylech sicrhau y gellir adalw gwrthodiad ar ddyddiad diweddarach. Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod rhai gwrthodiadau'n cael eu gwneud cyn i gynnyrch gael ei sganio.

STOC

Gwiriwch eich stoc gyfredol a newydd a sicrhewch fod pob recordiad fideo wedi ei ddosbarthu.

Gwiriwch eich stoc gyfredol a newydd ar gyfer labeli. Gwnewch yn siwr bod y disgiau, gemau ac ati-yn ogystal â'r achosion-wedi'u marcio'n gywir gyda'r symbol priodol, eicon (lle bo'n briodol) a nodyn esboniadol.

Prynwch bob amser gan gyflenwr sy'n hysbys ac ag enw da a chadwch eich dogfennau trafodiad.

Gwiriwch ansawdd yr argraffu ar label y ddisg a'r cas; gall argraffu o ansawdd gwael ddangos y gall y cynhyrchion fod yn ffug.

Mae rhai cynhyrchwyr yn defnyddio hologramau ar eu cynnyrch fel ffordd o ddangos eu bod yn ddilys. Gwiriwch fod unrhyw hologramau ar y cynhyrchion yn gweithio ac nid yn gopiau.

Eiddo deallusol

DEDDF NODAU MASNACH 1994

Mae llawer o fasnachwyr wedi cofrestru eu nod masnach ac wedi ei ymgorffori ar y ddisg neu'r gêm a'r cas neu unrhyw beth arall ar neu ym mha bynnag un y cedwir y recordiad. Gall hefyd ymddangos o fewn y cynnwys fel bod modd ei weld wrth ei wylio. Os caiff copi anawdurdodedig ei wneud, ei ddarganfod ar gyfer ei werthu neu ei hurio, neu'n cael ei werthu neu ei logi, a bod ganddo gopi o'r nod masnach cofrestredig, cyflawnir trosedd a all arwain at erlyniad, carchar am hyd at 10 mlynedd a dirwy. Yn ogystal, gall yr holl stoc droseddol gael ei fforffedu a'i ddifa.

DEDDF HAWLFRAINT, DYLUNIADAU A PHATENTAU 1988

Mae'n drosedd i wneud copi o waith hawlfreintiol. Gall person fod yn cyflawni trosedd hyd yn oed os nad yw nodau masnach yn cael eu harddangos. Gall dedfryd gynnwys carchar o hyd at 10 mlynedd a dirwy.

Ymdrinnir â'r ddwy gyfraith hyn yn ' Eiddo deallusol ', sydd hefyd yn cynnwys linciau i wybodaeth fanylach gan y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ' Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau '.

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Recordiadau Fideo 1984

Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988

Deddf Nodau Masnach 1994

Deddf Economi Ddigidol 2010

Deddf Recordiadau Fideo 2010

Rheoliadau Recordiadau Fideo (Labelu) 2012

Rheoliadau Deddf Recordiadau Fideo 1984 (Gweithiau Fideo wedi'u Hesemptio) 2014

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.