Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Crynoadau anifeiliaid

Y gofynion mewn crynoadau anifeiliaid - fel sioeau da byw-  i leihau'r risg o ledaenu clefydau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru

Rhaid i safonau bioddiogelwch da ar ffermydd, mewn crynoadau anifeiliaid (sy'n cynnwys marchnadoedd da byw, canolfannau casglu a sioeau da byw ac arddangosfeydd) ac ar gerbydau da byw gael eu cynnal er mwyn lleihau'r perygl o ledaenu'r clefyd.

Adwaenir marchnadoedd da byw, sioeau / arddangosfeydd a chanolfannau casglu ar y cyd fel 'crynoadau anifeiliaid'. Mae'n rhaid i ddigwyddiadau o'r fath gael eu trwyddedu gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ran Llywodraeth Cymru. Mae ffioedd statudol yn daladwy am drwyddedu adeilad gan APHA. Mae sioeau un diwrnod (lle nad oes unrhyw werthiant cyhoeddus neu ocsiwn anifeiliaid yn digwydd), a chasgliadau at ddibenion archwiliad yn unig i gadarnhau bod gan anifeiliaid nodweddion brid penodol, wedi'u heithrio rhag ffioedd trwydded.

Bioddiogelwch

Er bod y risgiau o glefydau fel clwy'r traed a'r genau yn aros yr un fath, mae'r dulliau o liniaru ac ymdrin â'r risgiau hynny, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn destun adolygiad cynhwysfawr a arweinir gan y diwydiant. Mae rheolaethau ar waith i liniaru risgiau clefydau a chyfrifoldeb y diwydiant i oruchwylio a rheoli mesurau bioddiogelwch penodol. Fodd bynnag, gall awdurdodau gorfodi weithredu os oes risg bioddiogelwch mewn cynulliadau anifeiliaid.

Mae mwy o wybodaeth Bioddiogelwch gyffredinol i'w gweld ar wefan GOV.UK.

Pwyntiau i'w nodi

Byddwch cystal â nodi'r canlynol, a fydd yn effeithio arnoch chi wrth ddanfon da byw i grynhoad anifeiliaid:

  • cyrhaeddwch ar yr amser y dyrannir chi, os yw'n berthnasol, i atal unrhyw aros diangen neu ymgasglu cerbydau
  • rhaid nodi'r holl wartheg, defaid a moch, a chofnodi symudiadau ac adrodd arnynt, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  • gadewch 'clefyd' lle y mae o drwy ddilyn mesurau bioddiogelwch da bob tro y byddwch yn gadael safle gyda da byw
  • sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw arwyddion clefydau hysbysadwy mewn anifeiliaid ac, os oes gennych unrhyw amheuaeth, ceisiwch gyngor milfeddygol cyn gynted â phosibl
  • peidiwch a dod i'r safle gyda dillad neu gerbyd da byw (gan gynnwys cerbyd a ddefnyddir i dynnu trelar) wedi'i halogi â mwd neu halogiad arall o'r fferm
  • bydd cyfleusterau ar gael i chi lanhau a diheintio eich esgidiau a sgwrio eich dwylo. Defnyddiwch nhw os oes angen i chi
  • mae trin anifeiliaid yn gallu lledaenu clefydau. Dylech olchi eich dwylo a'ch dillad/esgidiau cyn i chi adael y safle
  • glanhewch a diheintiwch eich cerbyd da byw ar y safle cyn gadael os yn bosibl
  • byddwch yn effro i arwyddion o'r clefyd mewn anifeiliaid. Os oes achos tybiedig o'r clefyd tra eich bod ar y safle, byddwch yn barod i gydweithredu â'r awdurdodau i roi'r cynllun wrth gefn ar gyfer rheoli clefydau ar waith
  • rhaid i gerbydau/trelars a ddefnyddir i gludo da byw i mewn i'r crynhoad anifeiliaid naill ai gael eu glanhau a'u diheintio neu dylai ymgymyruad i lanhau a diheintio gael ei gwblhau cyn gadael y crynhoad
  • mae'n rhaid i gyfeiriadau'r gyrchfan ar daflen AML1 (defaid) neu'r daflen grynodeb cludwr (moch) bob amser fod o'r crynhoad y symudir yr anifeiliaid iddo ac nid i'r cyrchfan terfynol
  • yn ogystal â'r angen i fod yn ffit i deithio, ystyrir da byw yn anaddas i fod mewn crynhoad anifeiliaid os ydynt:
    • yn gloff
    • wedi'u hanafu
    • yn sâl, yn fethedig neu wedi'u pesgi
    • yn afiach
    • yn debygol o roi genedigaeth

Mae canllawiau ar grynoadau anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn manylu ar rwymedigaethau cyfreithiol y bobl hynny sy'n cynnal crynhoad anifeiliaid, yn ogystal â rhoi cyngor atodol hanfodol i'r rhai sy'n mynychu crynhoad anifeiliaid mewn unrhyw rinwedd. I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â'r trwyddedai neu'r arolygydd iechyd anifeiliaid sydd ar ddyletswydd yn ystod y crynhoad.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ' Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau '.

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981

Gorchymyn Lles Mewn Marchnadoedd 1990

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Medi 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.