Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymorth llefaredd, iaith a chyfathrebu


Flying Start logo high resolutionMae Dechrau’n Deg yn darparu amrywiaeth o gymorth i sicrhau bod eich plentyn yn gallu cyfathrebu ac yn dysgu sut i ddefnyddio iaith i fod yn hyderus wrth fynegi ei ddymuniadau a'i teimladau.

Cynhelir cyrsiau i helpu rhieni i ddeall sut mae iaith yn datblygu, yn ogystal mae cefnogaeth ar gael yn y cartref i roi gwybod i chi pa gemau/teganau sydd orau i gael eich plentyn i gyfathrebu

Mae offeryn o’r enw WellComm yn cael ei ddefnyddio i'n helpu i benderfynu pa gymorth sydd orau i'ch plentyn a chi.

Gwybodaeth bellach

Mae dwy daflen wedi cael eu creu ar gyfer rhieni newydd – Bondio gyda’ch Bwmp ac O’r Groth i’r Geni.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.