Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Treth Gyngor: sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol


Rhybudd Prosesu Teg

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei roi, ac unrhyw dystiolaeth cefnogol y darparwch, er mwyn asesu eich atebolrwydd ar gyfer y Dreth Gyngor. Mae hyn yn ofynnol dan Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a’r holl reoliadau perthnasol sy’n gysylltiedig â’r asesiad o’r Dreth Gyngor.

Bydd hyn yn cynnwys Premiwm y Dreth Gyngor sydd ei angen dan Deddf Tai Cymru 2014, rhan 7, adran 139. Bydd hefyd yn cynnwys rhyddhad dewisol, sydd ei angen dan Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, adran 13 a (1) (c). 

Mae gennych hawl i wybod am y ffordd rydym yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Darllenwch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda gan ei bod yn cyfeirio at hawliau ychwanegol y dylech wybod amdanynt. 

Cyngor Sir Ynys Môn yw’r rheolydd data ar gyfer eich gwybodaeth. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn diogelu eich gwybodaeth ac yn penderfynu sut y caiff ei defnyddio. Y term cyfreithiol am ddefnyddio gwybodaeth yw prosesu. Hefyd, y term cyfreithiol am wybodaeth amdanoch chi yw data personol

Cyngor Sir Ynys Môn sydd wedi ei gofrestru fel y rheolydd data hefo’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir gweld manylion llawn y gofrestr yng nghofrestr rheolwyr data y Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth.

Bydd y Cyngor yn prosesu eich gwybodaeth personol oherwydd fod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ac ar gyfer casglu’r Dreth Gyngor. 

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer bilio, casglu ac adennill y Dreth Gyngor (gan gynnwys Premiwm y Dreth Gyngor) - dyma’r diben a fwriedir o brosesu. Ni ddefnyddir y wybodaeth at ddibenion nad ydynt yn gydnaws â pham y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf. 

Efallai bydd y Cyngor yn siecio neu matsio’r wybodaeth y darparwyd gennych, neu wybodaeth amdanoch y darparwyd gan rywun arall, hefo gwybodaeth arall y delir gennym fel Cyngor. Gall y Cyngor hefyd cael neu siecio gwybodaeth y darparwyd gennych neu matsio gwybodaeth amdanoch hefo trydydd parti penodol er mwyn gwneud penderfyniadau priodol a gwybodus mewn perthynas ag asesiadau hawl ac atebolrwydd, rheoli dyled, olrhain ac adennill, h.y. Asiantaethau Cyfeirnod Credyd. 

Yn ogystal, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei ddefnyddio gan drydydd partïon er mwyn atal neu ganfod trosedd, atal neu ganfod twyll, i ddiogelu arian cyhoeddus ac i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir. 

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am fod ganddo ddyletswydd neu hawl gyfreithiol i wneud hynny; neu i berfformio tasg sydd er budd cyhoeddus; neu am eich bod wedi rhoi eich caniatâd. Y term cyfreithiol am hyn yw y sail gyfreithiol o brosesu

Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am fod ganddo ddyletswydd neu hawl gyfreithiol i wneud hynny ac mae’n ymgymryd â thasg sydd er budd cyhoeddus, h.y. casglu treth i dderbyn buddiannau cyfunol a delir gan y dreth yma. 

Efallai byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau arall y Cyngor er mwyn sicrhau fod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfoes, er mwyn gwella safon y gwasanaethau rydym yn ei ddarparu ac i berfformio unrhyw un o’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys dyletswyddau gorfodaeth. 

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wlad arall. 

Efallai bydd y Cyngor yn rhannu’n fewnol eich data personol ar gyfer pwrpas y Dreth Gyngor, er mwyn darparu gwasanaethau statudol eraill, ond bydd hyn ond yn digwydd dan reolaeth llym a reolir. Gall y Cyngor hefyd ei ddefnyddio i siecio prawf preswylio. 

Bydd y Cyngor yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth gyda chyrff cyhoeddus a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddata personol. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y Cyngor yn casglu ac yn rhannu data gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (AGW) mewn perthynas â’i waith a’i astudiaethau archwilio. Bydd data’n cael ei rannu hefyd yn unol â’r ddyletswydd a nodir yn Adran 33 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. 

Bydd / gall y wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu yn cael ei rhannu gyda’r sefydliad(au) canlynol - 

  1. Llywodraeth Cymru
  2. Refeniw a Thollau EM
  3. Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  4. Rhentu Doeth Cymru
  5. Asiantau Gorfodaeth (ar gyfer swyddogaethau gorfodaeth statudol yn unig)
  6. Y Fenter Genedlaethol ar gyfer Atal Twyll
  7. Awdurdodau Heddlu
  8. Awdurdodau Lleol 

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Ni rennir y wybodaeth i ddibenion nad ydynt yn gydnaws â pham y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf. 

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw am cyhyd ag sy’n ofynnol neu’n angenrheidiol, a chaiff ei dinistrio’n ddiogel. Mae’r cyfnodau cadw wedi eu nodi yn rhestr y Cyngor o gyfnodau cadw, a gelwir hon yr atodlen gadw. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data os gwelwch yn dda. 

Mae gennych chi hawliau cyfreithiol, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth ydynt. 

Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad fod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei defnyddio. Bydd y Cyngor yn darparu cadarnhad os gofynnwch amdano. 

Mae gennych yr hawl i gael copi o’ch data personol. Darperir copïau o’ch data personol i chi o fewn y cyfnod statudol o un mis (neu, os yw darparu eich data personol yn fater cymhleth, fe wneir hyn cyn gynted ag sy’n rhesymol o fewn 3 mis). Darperir eich data personol yn rhad ac am ddim i chi, fodd bynnag, os tybir fod eich cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol, codir ffi rhesymol arnoch. Cewch ofyn i gael eich data personol trwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Cyngor. 

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro gwybodaeth amdanoch chi. Gelwir hyn yr hawl am gywiriad. Mae gennych yr hawl i ofyn am i’ch data personol gael ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Fe wneir hyn o fewn 1 mis, neu os yw eich cais yn fwy cymhleth, o fewn 3 mis. 

Yr hawl i gael dileu data personol. Mae gennych yr hawl i ofyn am i ddata personol gael ei ddileu mewn amgylchiadau penodol: 

  • Pan nad yw’r data personol bellach yn angenrheidiol mewn perthynas â’r diben o’i

gasglu/prosesu yn wreiddiol;

  • Pan ydych yn gwrthwynebu’r prosesu gan y Cyngor ac nad oes unrhyw fudd cyfreithlon sy’n drech na hynny o barhau â’r prosesu;
  • Os cafodd y data personol ei brosesu’n anghyfreithlon;
  • Pan fo rhaid dileu’r data personol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; neu
  • Pan fo’r data personol yn cael ei brosesu mewn perthynas â chynnig gwasanaethau cymdeithas wybodaeth i blant, er enghraifft “app” a ddatblygir yn benodol i blant. 

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu. Pan honnir fod data yn anghywir neu bod yr hawl i ddileu wedi cael ei weithredu, gallwch ofyn i’r Cyngor gyfyngu prosesu hyd nes bod gwiriadau dilysu wedi cael eu cwblhau. 

Yr hawl i wrthwynebu. Yn ogystal â’r hawl i wrthwynebu bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at farchnata uniongyrchol, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu sy’n seiliedig ar berfformio tasg er budd cyhoeddus/defnyddio awdurdod swyddogol (yn cynnwys proffilio), a phrosesu at ddibenion ymchwil gwyddonol/hanesyddol ac ystadegau. 

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd. Mae gennych yr hawl i beidio bod yn destun penderfyniadau sy’n seiliedig yn llwyr ar brosesu awtomataidd, yn cynnwys proffilio, sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol arnoch chi neu’n effeithio arnoch mewn modd sylweddol. 

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’n Swyddog Diogelu Data drwy e-bost, post neu ffôn os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi preifatrwydd hwn neu’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi. Gellir cysylltu gyda Swyddog Diogelu Data (SDD) y Cyngor drwy e-bost: DPO@anglesey.gov.wales neu SDD@ynysmon.llyw.cymru . Rydym yn gobeithio y gall ein SDD ateb unrhyw ymholiad neu ddatrys unrhyw bryder a fydd gennych am y modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol hefyd yn rhoi i chi’r hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliolyn y man yr ydych yn gweithio, yn byw fel arfer neu ble y digwyddodd unrhyw achos o dorri’r cyfreithiau diogelu data. Yr awdurdod goruchwyliol yn y DU yw’r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer SK9 5AF

E-bost: casework@ico.gsi.gov.uk 

Rhif Ffôn: 0303 123 1113

Casglu data electonig sy'n ymwneud â cheisiadau Budd-dal Tai a Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Mae’r dudalen hon yn nodi ymrwymiad cyfreithiol y Cyngor i ddatgan yn gyhoeddus ei bolisi ynglŷn â chasglu’n electronig, ddata sy’n ymwneud â cheisiadau Budd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, yn unol â:-

Ar gyfer Budd-dal Tai

Rhan 2 o Atodlen 11 Rheoliadau Budd-dal Tai 2006.

Rhan 2 o Atodlen 10 Rheoliadau Budd-dal Tai (Pobl sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006. 

Ar gyfer Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Rhan 1 o Atodlen 12 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 fel y cafodd ei hymgorffori gan y Cyngor Sir Ynys Môn yn ei Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2016-17 ar gyfer Hawlwyr sy’n Bensiynwyr a Hawlwyr nad ydynt yn Bensiynwr. 

drwy hyn yn rhoi’r cyfarwyddyd canlynol:- 

1. Ar yr amod y defnyddir y dull a gymeradwywyd gan yr Awdurdod, gellir defnyddio cyfathrebu electronig yn yr amgylchiadau canlynol:-

  • Gwneud cais am Fudd-dal Tai a / neu Ostyngiad yn y Dreth Gyngor
  • Diwygio cais am Fudd-dal Tai a / neu gais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor
  • Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar gyfer cais Budd-dal Tai a / neu gais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor. 

2. Mae’r dulliau a gymeradwywyd gan yr Awdurdod ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig fel a ganlyn: 

Gwneud cais newydd 

  • Rhaid defnyddio’r ffurflen hawlio / ffurflen gais sydd ar wefan y Cyngor ar gyfer gwneud cais newydd. Rhaid i’r ffurflen gael ei chwblhau yn unol â’r cyfarwyddiadau sydd ar y wefan.
  • Rhaid i’r person gadw copi o unrhyw gyfathrebiad electronig, y rhif cyfeirnod a gynhyrchir, hawliad / cais, tystysgrif, hysbysiad, gwybodaeth neu dystiolaeth fel y gellir eu dangos i’r Awdurdod ar gais. Gall methiant i gynhyrchu’r dystiolaeth yn dilyn cais rhesymol gael ei ystyried fel methiant i gyfathrebu’n electronig yn llwyddiannus gyda’r Awdurdod.
  • Ceisiadau newydd electronig drwy apwyntiad a wnaed dros y ffôn neu drwy ymweld yn bersonol â Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni. Gellir gwneud apwyntiadau am geisiadau electronig o’r fath dros y ffôn ar 01248 752226 neu 01248 752658 9:00am -12:00pm a 3.00pm i 4.00pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener bob wythnos. 

Diwygio cais neu roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

  • Drwy bost electronig i budd-dal@ynysmon.gov.uk
  • Dros y ffôn ar 01248 752226 neu 01248 752658.
  • Rhaid i unrhyw berson sy’n anfon cyfathrebiad electronig at yr Awdurdod nodi’n glir eu henw llawn, cyfeiriad post llawn, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol. Bydd unrhyw gyfathrebiad lle na fedr yr Awdurdod wirio pwy yw’r anfonwr yn cael ei ystyried fel un a wnaed yn annilys.. 

3. Gall yr Awdurdod dderbyn delweddau ffotograffig a rhai a sganiwyd yn ddigidol o hysbysiadau, ffurflenni, tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan berson lle maent wedi cael eu gwirio gan un o swyddogion yr Awdurdod neu’r partner neu’r asiant a ddewiswyd ganddo. Lle nad yw wedi cael ei wirio, gall yr Awdurdod wneud cais i weld y gwreiddiol os na ellir cadarnhau ei ddilysrwydd mewn unrhyw ffordd arall. 

4. Gall yr Awdurdod benderfynu y gall sefydliadau penodol cymeradwy ei defnyddio mewn perthynas â cheisiadau electronig a gwybodaeth. Os felly, bydd angen i’r ymgeisydd gysylltu â’r sefydliadau mewn perthynas â hyn. 

5. Mae “System gyfrifiadurol swyddogol” yr Awdurdod i ddibenion cofnodi gwybodaeth sy’nymwneud â chyfathrebu electronig yn cael ei ddarparu gan Systemau Gwybodaeth Northgate Ltd ar gyfer Budd-daliadau Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Caiff system ffurflenni’r Cyngor i hawlio Budd-daliadau Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ei darparu gan Victoria Forms Ltd.

Mae’r systemau hyn hefyd yn cael eu hystyried fel “systemau cyfrifiadurol swyddogol” at ddibenion cofnodi gwybodaeth sy’n ymwneud â chyfathrebu electronig..

6. Gall yr Awdurdod ofyn am wybodaeth bellach neu dystiolaeth ategol wreiddiol cyn y gellir asesu / diwygio’r cais am Fudd-dal Tai a / neu gais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor. Gall yr Awdurdod wirio hawliadau / ceisiadau, tystysgrifau, hysbysiadau, gwybodaeth neu dystiolaeth gan ddefnyddio systemau a ffynonellau gwybodaeth trydydd parti yn ogystal â thrwy gysylltu’n uniongyrchol â pherson sy’n defnyddio cyfathrebiadau electronig neu drwy ddull arall. 

7. Bydd unrhyw hawliad / cais, diwygiad neu hysbysiad a dderbyniwyd: 

a) Nad yw’n cydymffurfio ag unrhyw un o’r safonau perthnasol yn annilys;

b) Sydd yn cydymffurfio â’r safon uchod ond sydd ddim yn cael ei dderbyn gan system gyfrifiadurol swyddogol yr Awdurdod, yn cael ei ystyried fel un na chafodd ei gyflwyno. 

8. Gall y cyfarwyddyd hwn yn cael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio ar unrhyw adeg drwy gyhoeddi cyfarwyddyd pellach

Nodyn preifatrwydd: Y Dreth Gyngor

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ac unrhyw dystiolaeth ategol a roddwch i asesu eich atebolrwydd ar gyfer Treth Gyngor.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.