Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Eich Treth Gyngor


Mae tair elfen i’ch Dreth Gyngor, sy'n mynd i:

  • Gyngor Sir Ynys Môn
  • Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd
  • i’r cynghorau tref a chymuned

Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gyfrifol am gasglu’r arian ar eu rhan ond mae’r heddlu a’r cynghorau tref a chymuned yn penderfynu ar eu lefelau treth eu hunain.

Dyrennir band Treth y Cyngor i bob eiddo a bennir gan y Swyddog Prisio.

Mae Treth Gyngor yn system o drethiant lleol a gesglir gan awdurdodau lleol ('y Cyngor').

Mae'n dreth ar eiddo domestig. Yn gyffredinol, po fwyaf yw'r eiddo, y mwyaf o dreth a godir.

Mae'r cyngor yn cadw rhestr o'r holl eiddo domestig yn ei ardal.

Gelwir hyn yn rhestr brisio. Caiff pob eiddo ei brisio a'i roi mewn band prisio.

Yna codir swm gwahanol o Dreth Gyngor ar bob band.

Ystad o werthoedd Band
Gwerth ddim mwy na £44,000 A
Gwerth dros £44,000 ond dim mwy na £65,000 B
Gwerth dros £65,000 ond dim mwy na £91,000 C
Gwerth dros £91,000 ond dim mwy na £123,000 D
Gwerth dros £123,000 ond dim mwy na £162,000 E
Gwerth dros £162,000 ond dim mwy na £223,000 F
Gwerth dros £223,000 ond dim mwy na £324,000 G
Gwerth dros £324,000 ond dim mwy na £424,000 H
Gwerth dros £424,000 I

Taliadau Treth Gyngor

Lawrlwythio: Symiau'r Dreth Cyngor fesul tref/cymuned [192KB | PDF]

Efallai na fydd y ffeiliau yma'n hygyrch.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

Gwiriwch eich band Treth Gyngor

Gallwch wirio eich band Treth Gyngor ar wefan GOV.UK

Gwefan allanol yw hon. Mae'r wybodaeth ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwiriwch eich band Treth Gyngor (gwefan allanol)

Pwy sy'n gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor?

​​Y person a enwir ar fil Treth Gyngor sy'n gyfrifol am dalu'r ffioedd.

Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, y preswylydd sydd â'r budd mwyaf yn yr eiddo fel arfer.

Megis:

  • Perchen-feddianwyr, lesddalwyr, thenantiaid (ar yr amod nad ydynt yn byw yn yr un eiddo â’u landlord). a phreswylwyr.
  • Bydd perchnogion yn atebol dros eiddo lle nad oes unrhyw breswylydd ac ar gyfer eiddo yr ystyrir ei fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth.

Cyd-atebolrwydd

Mae atebolrwydd cyd ac unigol yn derm cyfreithiol sy'n golygu bod pob person sydd â'r un lefel o fudd mewn eiddo yr un mor gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor.

Byddwn yn cyflwyno’r bil Treth Gyngor mewn mwy nag un enw os ydych:

  • yn berchen ar eich eiddo ar y cyd â pherson arall neu bobl eraill
  • â chyd-denantiaeth â pherson arall neu bobl eraill
  • yn briod,yn rhan o bartneriaeth sifil, neuyn byw gyda rhywun arall fel rhan o gwpl

​​Yr hawl i apelio

Gallwch apelio os credwch nad ydych yn atebol i dalu Treth y Cyngor neu y dylai fod gennych hawl i ostyngiad neu eithriad. Er enghraifft:

Dylid cyflwyno pob apêl i Gyngor Sir Ynys Môn yn y lle cyntaf. Efallai na fydd cyflwyno apêl yn cael ei ystyried yn rheswm dilys dros beidio â thalu Treth y Cyngor.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y cyngor, gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Nid yw'r cyngor yn gyfrifol am osod eich band treth gyngor. Os ydych yn ystyried bod eich band prisio yn anghywir neu wedi bod yn anghywir, efallai y bydd y Swyddog Rhestru yn gallu adolygu eich band.

Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael gan y Swyddog Rhestru drwy e-bost i ctonline@voa.gov.uk neu ffonio 03000 505 505.

Nid yw gwneud apêl yn caniatáu i chi atal taliad treth sy’n ddyledus yn y cyfamser. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus bydd gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw dreth a ordalwyd.

Mae’r arian a godir gan y cyngor o Dreth Gyngor yn mynd ar wasanaethau mawr gan gynnwys:

  • gofal cymdeithasol plant
  • casglu a phrosesu gwastraff
  • cymorth i’r henoed a phobl agored i niwed
  • ysgolion, addysg a gwasanaethau ieuenctid
  • atal digartrefedd
  • cynnal a chadw meysydd parcio a mannau agored
  • ffyrdd, priffyrdd a strydoedd
  • gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu
  • crwneriaid, cofrestryddion, llysoedd ac etholiadau
  • glanhau strydoedd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd

Gallwch ofyn i ni am gopi o'ch bil.

Gofyn am gopi o'ch bil - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Gallwch dalu Treth Gyngor mewn nifer o ffyrdd:

  • Debyd Uniongyrchol
  • Ffôn
  • Swyddfa Bost
  • PayPoint
  • Siec drwy’r post
  • Banc

Talu eich bil

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.