Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Benthyciadau di-log i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd


Datblygwyd y cynllun hwn er mwyn cynnig benthyciadau di-log i adnewyddu a/neu addasu eiddo gwag a’u gwneud yn addas i’w defnyddio unwaith eto

Mae’r llyfryn atodwyd yn cynnwys manylion am y benthyciadau adnewyddu eiddo a fydd ar gael drwy Fenter Eiddo Gwag Cymru gyfan (Troi Tai’n Gartrefi). Datblygwyd y cynllun hwn er mwyn cynnig benthyciadau di-log i adnewyddu a/neu addasu eiddo gwag a’u gwneud yn addas i’w defnyddio unwaith eto. Mae’r llyfryn hwn yn disgrifio sut y bydd y Cynllun Benthyciadau’n gweithio, sut i wneud cais a pha amodau fydd ynghlwm wrth y benthyciadau.

Bydd pob benthyciad fydd yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i nifer o amodau er mwyn sicrhau bod arian y gronfa fenthyciadau’n cael ei “ailgylchu”. Bydd hyn yn ein galluogi i helpu rhagor o gynlluniau eiddo gwag.

Ni ellir gwarantu unrhyw fenthyciad a gynigir nes y byddwch wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor. Bydd unrhyw waith a wneir cyn cael y gymeradwyaeth hon yn cael ei wneud ar eich risg eich hun.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r cynllun neu amodau’r benthyciad at:

Swyddog Tai Gwag
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW 
Rhif Ffôn:  01248 750057     
E-bost: swyddogtaigwag@ynysmon.llyw.cymru