Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Adfeddiannu eiddo yng Nghymru


Bydd angen i nifer o landlordiaid preifat ar ryw adeg neu’i gilydd adfeddiannu eu heiddo. I wneud hyn, rhaid dilyn rhai rheolau a gweithdrefnau penodol.

Mae’r rhan fwyaf o denantiaethau preifat yng Nghymru yn denantiaethau byrddaliol sicr ac fel arfer, ni fedr landlordiaid adennill meddiant yn ystod y chwe mis cyntaf. 

Gellir defnyddio rhybudd Adran 21 i roi rybudd adennill meddiant. Rhaid rhoi rhybudd digonol a rhaid i landlordiaid hefyd fod wedi eu cofrestru a’u trwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru.

Gellir defnyddio rhybudd Adran 8 mewn achosion ble mae’r tenant wedi torri amodau’r cytundeb tenantiaeth.

Mae Rhybudd Adran 21 yn caniatáu i landlordiaid adfeddiannu eu heiddo fel mater o hawl, ac nid oes raid i’r tenant fod wedi torri amodau eu tenantiaeth. Fe’i gelwir hefyd yn rhybudd troi allan ‘dim bai’ oherwydd bod y landlord yn dymuno adennill meddiant o’i eiddo.

Gellir cyflwyno Rhybudd Adran 21 ar unrhyw adeg ar yr amod bod y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i’r tenant adael yr eiddo ar ôl dyddiad tymor sefydlog y denantiaeth fyrddaliol sicr.

Rhaid i Rybudd Adran 21 roi o leiaf dau fis llawn o rybudd i’r tenant adael yr eiddo.  Fel arfer, bydd cyflwyno Rhybudd Adran 21 i denant yn golygu y bydd y tenant yn symud o’r eiddo erbyn y dyddiad y daw’r rhybudd hwnnw i ben.

Fodd bynnag, os yw tenant yn gwrthod gadael pan mae cyfnod y rhybudd wedi dod i ben, gall landlordiaid wedyn ddefnyddio gweithdrefn gyflymach drwy’r llysoedd ar gyfer sicrhau meddiant o’r eiddo.

Mae yna nifer o amgylchiadau pryd gall rhybuddion Adran 21 fod yn annilys, gan gynnwys:

  • Nid yw’r landlord neu’r asiant wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru
  • Nid yw’r blaendal wedi cael ei roi mewn cynllun dilys i ddiogelu blaendal
  • Nid yw’r landlord wedi rhoi Tystysgrif Perfformiad Ynni gyfredol i’r tenant

Gall landlordiaid gyflwyno Rhybudd Adran 8 ynghyd â Rhybudd Adran 21.

Rhybudd cyfreithiol ffurfiol yw rhybudd Adran 8 sy’n hysbysu tenantiaid sydd wedi torri amodau eu tenantiaeth, bod hawl gan eu landlord i’w troi allan o’r eiddo oni bai eu bod yn cywiro’r tor-amod.

Rhaid i landlordiaid sy’n ceisio meddiant o eiddo drwy ddefnyddio Rhybudd Adran 8 ddweud wrth eu tenantiaid eu bod yn bwriadu cyflwyno cais i’r llys yn gofyn am feddiant. Mae cyfnod y rhybudd yn amrywio o bythefnos i ddau fis gan ddibynnu ar y sail a ddefnyddir dros geisio meddiant.

Rhaid i’r rhybudd gynnwys disgrifiad cyfreithiol a ddiffiniwyd ymlaen llaw, o’r modd y torrwyd amodau’r denantiaeth.  Cyn cyflwyno rhybudd Adran 8, rhaid i landlord fedru dangos eu bod wedi gwneud ymdrech resymol i ddatrys y sefyllfa. Os yw tenant yn gwrthod symud o’r eiddo  ar ôl i Rybudd Adran 8 ddod i ben, gall y landlord wedyn gyflwyno cais i’r llys yn ceisio meddiant. 

Mae Rhybuddion Adran 8 yn annilys dan yr amgylchiadau isod:

  • Nid yw’r landlord neu’r asiant wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru
  • Nid yw’r rhybudd yn cynnwys enw’r tenant neu mae enw’r tenant wedi’i sillafu’n anghywir
  • Nid yw’r rhybudd yn cynnwys cyfeiriad yr eiddo neu mae cyfeiriad yr eiddo wedi’i sillafu’n anghywir
  • Nid yw’r rhybudd yn cynnwys manylion am y sail dros geisio meddiant
  • Nid yw’r rhybudd yn dweud pryd y bydd y cyfnod rhybudd yn dod i ben

Dilynwch y linicau isod os gwelwch yn dda am fwy o wybodaeth am orchmynion troi allan:

Landlordiaid
Tenantiaid
Landlordiaid a Thenantiaid