Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun cofrestru cŵn


Yn unol â Gorchymyn Rheoli Cŵn 1992, mae’n drosedd i chi adael eich ci allan mewn lle cyhoeddus onid oes gennych reolaeth drosto.

Mae’n drosedd hefyd i chi beidio cael tag ar eich ci gyda manylion cyswllt.

Yn 1993, cychwynnwyd Cynllun Gwirfoddol i Gofrestru Cŵn gan Gyngor Sir Ynys Môn i annog pobl i fod yn berchenogion cyfrifol ar gŵn. Bellach, mae dros 3,000 o gŵn ar gofrestr y cyngor.

Ymunwch â'r cynllun

I fod yn gymwys i ymgeisio, rhaid i’ch ci fod wedi’i ficrosglodynnu. Bydd angen rhif y microsglodyn arnoch.

Gwybodaeth bellach

Gall perchenogion cyfrifol sy’n byw ym Môn, neu sy’n ymweld â’r ynys am gyfnodau o amser, gofrestru eu cŵn gyda’r cyngor. 

Bydd perchennog y ci yn derbyn tag ar gyfer y ci a thystysgrif i ddangos bod y ci wedi ei gofrestru.

Bydd manylion am y ci yn cael eu cadw ar gronfa ddata’r cyngor.

Mae tag ar gael i breswylwyr Ynys Môn ar gyfer eich ci, sy’n costio £6.

Mae’r cynllun yn parhau am oes y ci (er bod gan y cyngor yr hawl i dynnu eich manylion oddi ar y gofrestr petaech yn camddefnyddio’r system).

Mae rhif unigryw ar y tag sy’n cael ei gofnodi ar y gofrestr. Mae rhai pobl wedi cofrestru eu ci sawl gwaith er mwyn cael un tag ar gyfer bob coler neu harnais.

Oes.

Bwriadwyd y cynllun ar gyfer perchenogion cyfrifol sy’n poeni rhag ofn i’w cwn grwydro neu ddianc yn ddamweiniol.

Nid trwydded sy’n caniatáu i’ch ci grwydro ydy’r cynllun oherwydd os byddwch yn caniatáu i’ch ci grwydro’n gyson, yna mae modd tynnu’r manylion amdano oddi ar y gofrestr ac mae modd i’r warden cŵn ei gaethiwo.

Os bydd eich ci yn cael ei ddanfon i genelau’r cyngor a’i restru ar y gofrestr swyddogol ar gyfer cŵn strae, yna bydd raid i chi dalu am ei ryddhau.

Cysylltwch â Gwarchod Y Cyhoedd ar y rhif ffôn ar y dudalen hon.

Fel arall, ewch i’r dudalen ar y safle gwe sy’n ymwneud â cwn strae.