Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Mwg tywyll


Byddai’r niwsans a achosir gan fwg o eiddo domestig neu fwg nad ydyw’n fwg tywyll o eiddo diwydiannol neu fasnachol yn cael ei ystyried fel niwsans statudol gan yr Adain Iechyd yr Amgylchedd.

Efallai y bydd goblygiadau yn unol â Gofynion Rheoli Gwastraff os yw’r deunydd sy’n cael ei losgi yn wastraff ac efallai hefyd y byddech yn dymuno cysylltu gydag Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Y gyfraith

Yn unol â Deddf Aer Glân 1993 mae’n drosedd gollwng mwg tywyll o simnai unrhyw adeilad. O’i gael yn euog o’r fath drosedd gallai deilydd yr adeilad orfod talu dirwy o hyd at £1,000, neu £5,000 yn achos rhywun â chanddynt fwrnais mewn bwyler neu beiriant diwydiannol.

Mae darpariaethau tebyg yn berthnasol i beiriannau rheilffordd a badau sy’n teithio ar ddŵr.Mae’n drosedd hefyd achosi i fwg tywyll ollwng o unrhyw adeilad masnachol neu ddiwydiannol. Mae’r ddarpariaeth hon yn ymwneud â mwg o goelcerthi.

Mae rhai eithriadau i’r troseddau hyn ac nid ydynt yn berthnasol i weithgaredd y cafwyd Trwydded ar ei gyfer dan reoliadau rhan 2 Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999.

Gall adeiladau masnachol gynnwys ffermydd a safleoedd dymchwel. Gallai unrhyw un sy’n achosi’r fath fwg, neu sy’n caniatau iddo gael ei achosi, orfod talu dirwy o hyd at £20,000 os ceir nhw yn euog.Ystyrir y bydd mwg tywyll wedi ei ryddhau os yw’n ymddangos fod deunydd wedi cael ei losgi ac y byddai’r deunydd hwnnw, yn ôl pob tebyg, wedi achosi mwg tywyll.

Dirwyon

Gall y cyngor ystyried bod trosedd mwg tywyll wedi ei chyflawni os yw’n cael hyd i dystiolaeth o olion plastig, teiars neu fwrdd sglodion ac ati mewn gweddillion coelcerth. Mae llosgi ceblau yn drosedd benodol dan adran 33 y Ddeddf ac mae’r ddirwy am wneud hynny yn gallu bod cymaint â £5,000.

Sut i fesur mwg tywyll

Gellir mesur mwg tywyll gan ddefnyddio siart Ringelmann (dolen i wefan allanol yn Saesneg).

Gall Llys fod yn fodlon bod mwg yn fwg tywyll, neu ddim yn fwg tywyll, hyd yn oed os na chafodd ei gymharu gyda’r siart Ringelmann.