Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru


Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (NWSB) yn gorff statudol sy'n cydlynu, monitro a herio ei asiantaethau partner wrth Ddiogelu Plant ac Oedolion sydd mewn Perygl yng Ngogledd Cymru. Mae gan y Byrddau Diogelu rôl unigryw i'w chwarae.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn gweld ei swyddogaeth fel gwneud 'Diogelu yn fusnes i bawb'.

Beth yw pwrpas Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru?

Mae'r Bwrdd yn

  • goruchwylio effeithiolrwydd cyffredinol ei aelod-asiantaethau
  • ffurfio barn annibynnol ar waith diogelu rhanbarthol a heriau lle bo angen 

Pwy yw'r aelodau?

Partneriaeth amlasiantaethol gyda

  • asiantaethau statudol fel Yr Heddlu, yr Awdurdod Lleol, Iechyd, y Gwasanaeth Prawf
  • asiantaethau eraill fel Addysg, Tai, Tîm Diogelu Cenedlaethol (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, Gwasanaeth Ambiwlans, Gwasanaeth Tân ac Achub, Trydydd Sector, Darparwyr Gofal, Cyfreithiol 

Beth mae'r Bwrdd yn ei wneud?

Mae'r Bwrdd yn

  • cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Polisïau a gweithdrefnau Cenedlaethol a Rhanbarthol
  • adolygu effeithlonrwydd mesurau a gymerwyd gan bartneriaid a chyrff y Bwrdd Diogelu a gynrychiolir ar y Bwrdd
  • codi ymwybyddiaeth o faterion Diogelu
  •  cynnal adolygiadau, archwiliadau ac ymchwiliadau i Ymarfer Plant ac Oedolion i sicrhau bod asiantaethau'n dysgu o ymarfer
  •  adolygu perfformiad y Bwrdd a'i bartneriaid a gynrychiolir ar y Bwrdd wrth gyflawni ei amcanion
  • dosbarthu gwybodaeth am arfer gorau a dysgu o adolygiadau
  •  hwyluso ymchwil i amddiffyn ac atal cam-drin ac esgeuluso plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed
  • yn adolygu anghenion hyfforddi'r ymarferwyr hynny sy'n gweithio yn ardal y Bwrdd ac i nodi gweithgareddau hyfforddi a sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar sail rhyngasiantaethol a sail sefydliadol unigol i gynorthwyo i amddiffyn ac atal cam-drin ac esgeuluso plant
  • yn cydweithredu neu'n gweithredu ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau