Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Safle sydd wedi'i gymeradwyo i gynnal seremoniau yn Llangefni


Priodasau a phartneriaethau sifil

Rydym yn dilyn cyngor a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad y cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod cynnwys a fformat seremonïau priodasol a phartneriaethau sifil wedi cael eu hadolygu ac ein bod wedi cyflwyno cyfyngiadau ar nifer y bobl a ganiateir yn ein hystafelloedd seremoni ar unrhyw adeg.

Bydd cadw pellter cymdeithasol yn helpu i sicrhau bod swyddogion ac ymwelwyr yn ddiogel a bydd yn helpu i atal lledaeniad coronafeirws.

Uchafswm nifer y bobl a ganiateir ym mhob ystafell yw:

  • Swyddfa Gofrestru - 6 o bobl
  • Ystafell Seremoni - 14 o bobl

Mae’r ffigyrau hyn yn cynnwys y ddau gofrestrydd a’r cwpwl.

Byddwn yn cysylltu â chyplau sydd wedi trefnu seremoni ar sail mis wrth fis. Ein blaenoriaeth yw ail ddechrau seremonïau sydd wedi eu trefnu i ddigwydd yn y Swyddfa Gofrestru ym mis Gorffennaf ac Awst cyn derbyn ceisiadau newydd o fis Medi ymlaen. Bydd yr holl geisiadau yn amodol ar argaeledd.

Rydym bellach yn cynnal seremonïau mewn mannau eraill sydd wedi’u cymeradwyo (e.e. gwestai). Rydym yn gweithredu ar y canllawiau o gadw’r pellder cymdeithasol yn ystod y seremoniau. Rydym yn gwerthfawrogi bod yr ansicrwydd hwn yn ei gwneud hi’n anodd cynllunio ac rydym yn teimlo dros yr holl gyplau sydd wedi eu heffeithio arnynt gan y sefyllfa hon.

Dyma rhai cwestiynau ac atebion defnyddiol i gyplau:

O ba ddyddiad y gall priodasau gael eu gweinyddu neu y gellir ffurfio partneriaethau sifil?

Yng Nghymru gellir gweinyddu priodasau a ffurfio partneriaethau sifil o 22 Gorffennaf. Gall hyn ddigwydd yn Lloegr o 4 Gorffennaf.

Lle mae person ar y rhestr warchod, a all priodas gael ei gweinyddu neu bartneriaeth sifil gael ei ffurfio o bell drwy dechnoleg cynhadledd fideo?

Na, nid oes unrhyw ddarpariaeth o fewn deddfwriaeth gyfredol ar gyfer cynnal priodasau neu bartneriaethau sifil rhithiol.

A all cyplau sydd eisoes wedi rhoi hysbysiad symud ymlaen gyda’u priodas / partneriaeth sifil os dymunant wneud hynny?

Gallant, cyhyd â bod yr awdurdodau yn dal yn ddilys a bod y safle’n parhau’r un safle ac ar agor.

Beth sy’n digwydd os rhoddwyd hysbysiad blaenorol ar gyfer safle sy’n awr ar gau?

Mae angen hysbysiad newydd os yw’r safle yn newid ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil.

Mae gerddi’r swyddfa gofrestru yn hyfryd – gan fod llai risg yn yr awyr agored, a fedrir cynnal y seremoni yno yn lle hynny?

Na. Mae’n rhaid i briodas neu bartneriaeth sifil ddigwydd o fewn y safle a fanylir ar yr hysbysiad a’r caniatâd, ac fel y nodir yng nghymeradwyaeth y safle. Ni chaiff y gofod awyr agored ei gynnwys fel rhan o’r safle.

Pam na all tystion ddefnyddio technoleg fideo i fod yn dystion i’r seremoni?

Mae gofyniad yn parhau i fod o fewn y ddeddfwriaeth i 2 dyst fod yn bresennol i fod yn dyst i briodas a phartneriaeth sifil ac wedyn lofnodi’r gofrestr.

Genedigaethau

Bydd y broses o gofrestru genedigaethau a ddigwyddodd yn Ynys Môn yn ail ddechrau ar 1 Gorffennaf, 2020. Mae darpariaeth bellach wedi ei rhoi mewn lle er mwyn i enedigaethau allu cael eu cofrestru dros y ffôn yn rhannol. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad cyhoeddus. Er mwyn cwblhau’r cofrestriad, rhaid i riant/rhieni arwyddo’r gofrestr yn bersonol yn y Swyddfa Gofrestru a byddwn yn trafod y trefniadau ar gyfer gwneud hyn wrth drefnu apwyntiad.

Ar gyfer cofrestru babis sydd wedi eu geni mewn siroedd eraill, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru yn y Sir lle ganwyd y plentyn e.e.

  • Ysbyty Gwynedd – 01766 771000

I wneud apwyntiad ar gyfer cofrestru dros y ffôn ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01248 751925 (6) neu (7).

Gall rhieni barhau o wneud hawliad am fudd-dâl plant neu gredyd cynhwysol cyn cofrestru’r enedigaeth, lle nad ydynt wedi gallu gwneud hynny oherwydd y mesurau hyn. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth drwy fynd i https://www.gov.uk/child-benefit/how-to-claim

Marwolaethau a geni’n farw

Mae darpariaeth bellach wedi’i wneud er mwyn gallu cofrestru marwolaethau dros y ffôn. Bydd hyn yn helpu’r Gwasanaeth Cofrestru i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad cyhoeddus. Bydd y Gwasanaeth Cofrestru hefyd yn gweithio’n agos ag ymarferwyr iechyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn electronig er mwyn diddymu’r angen i deuluoedd sy’n galaru ymweld â’r Swyddfa Gofrestru yn ystod cyfnod yr argyfwng presennol.

I wneud apwyntiad ar gyfer cofrestru dros y ffôn ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01248 751925 (6) neu (7).

 

Mae gan y cyngor Sir adeilad wedi'i gymeradwyo yn Llangefni, o'r enw Ystafell Bryn Cefni Suite, sy'n dal hyd at 40 o bobl.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ar (01248) 751 926 neu drwy e-bost:  cofrestryddion@ynysmon.gov.uk