Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ffurflenni cais cofrestru


Ffurflenni cais geni, priodas ac marwolaeth.

Mae hon yn gopi cyflawn o’r cofnod geni ac mae’n cynnwys manylion am y rhieni a’r cofrestru.

Enw, cyfenw, rhyw, dyddiad geni ac ardal geni yn unig y mae’r dystysgrif fer yn ei dynodi. Mae hi’n ofynnol i chi nodi’r union ddyddiad a’r man geni ynghyd ag enw llawn a chyfenw’r sawl yr ydych eisiau ei d/thystysgrif ef/hi, yn ogystal â (mor bendant â phosibl) enwau a chyfenwau’r rhieni a chyfenw’r fam cyn priodi. Os ydych chi eisiau tystysgrif geni fer ac yn medru rhoi manylion llawn, a fyddech chi cystal â chwblhau’r ffurflen dros y ddalen. Oni roddir manylion llawn mae’n bosibl na roddir tystysgrif fer i chi.

Mae tystysgrifau at ddibenion statudol penodol (ee Budd-dâl Plant a Nawdd Cymdeithasol) ar gael hefyd. Os gofynnwyd i chi gael tystysgrif o’r fatha fyddech chi cystal â thicio’r blwch priodol yn 5C

Mae manylion am fabwysiadu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cadw gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae’r rhain yn ymwneud â phobl sydd wedi cael eu mabwysiadu ers 1 Ionawr 1927 dan y Deddfau Mabwysiadu. Mae tystysgrif safonol yn gopi cyflawn o’r cofnod yng Nghofrestr y Plant Mabwysiedig sydd, yn hytrach na chynnwys manylion am rieni a chofrestru’r geni, yn rhoi’r dyddiad geni (os yw’n wybyddus) a manylion am y mabwysiad a’r rhieni sydd wedi mabwysiadu. Dangos yr enw yn unig a wna’r dystysgrif fer ac ni cheir unrhyw gyfeiriad at fabwysiadu. Dylid cyflwyno ceisiadau am dystysgrifau mabwysiadu yn ysgrifenedig i’r General Register Office, PO Box 2, Southport, Merseyside, PR8 2JD. PEIDIWCH  DEFNYDDIO’R FFURFLEN HON I’R PERWYL HWNNW.

Gellir gwneud ceisiadau am dystysgrif safonol ar-lein hefyd. Gweler www.direct.gov.uk am wybodaeth.

Os ydych chi’n cyflwyno cais drwy’r post a fyddech chi cystal â chwblhau’r ffurflen hon a chynnwys amlen wedi ei chyfeirio gyda stamp ynghyd â’r ffiberthnasol mewn sterling. Gellir cael manylion am gost tystysgrifau o unrhyw swyddfa gofrestru. Dylid gwneud sieciau/archebion post yn daladwy i Cyngor Sir Ynys Môn ac wedi eu croesi “/& Gwmni/”. PEIDIWCH Â GYRRU ARIAN PAROD.

PEIDIWCH â defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r COFRESTRYDD CYFFREDINOL.

Fe all gwybodaeth ynglyn â’r cais hwn ei drosglwyddo i adrannau eraill y Llywodraeth neu asiantaethau cynnal y gyfraith ar gyfer pwrpasau datgelu ag atal troseddau.