Os ydych yn dymuno olrhain eich hanes teulu drwy gofnodion genedigaeth, priodasau a marwolaeth Ynys Môn, yna gallwn olrhain y digwyddiad i chi a chyflenwi tystysgrif cyhyd a byddwch yn darparu digon o wybodaeth cefndirol.
Olrhain eich hanes teulu
Noder:
Mae olrhain eich hanes teulu ar Ynys Môn yn broses anodd gan bod yr ynys wedi’i rhannu i fewn i wyth ardal ar gyfer genidegaethau a marwolaethau gyda mynegai ar gyfer pob un. Roedd 82 eglwys ar yr ynys a phob un gyda’i fynegai ei hyn ynghyd a mynegai ar gyfer pob capel - mae hyn yn golygu archwilio eang.
Os oes gennych ragor o ddiddordeb mewn hanes teulu neu hanes lleol, dilynwch y ddolen isod i dudalenau’r Gwasanaeth Archifau.
Noder: ni chofrestrwyd rhai genidegaethau cyn 1872.
Sut ydw i yn gwneud cais am gopi o dystysgrif geni, priodas a marwolaeth?
- Y math o dystysgrif: geni, priodas neu marwolaeth
- Enw neu enwau y personau
- Dyddiad y digwyddiad
- Lleoliad y digwyddiad
- Unrhyw wybodaeth arall
- Ceir ffurflenni cais lleol ar ein safle
- Am gostau cyfredol copiau o dystysgrifau gan y Cofrestrydd lleol gweler Costau’r Cofrestrydd
Mae’r Swyddfa Cofrestru Cyffredinol yn dal copi o phob cofrestriad ar gyfer Cymru a Lloegr. Cedwir cofrestrau lleol yn y Swyddfeydd Cofrestru lleol.Ceir tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth ar gyfer Ynys Môn o Orffennaf 1837 ymlaen gan y Cofrestrydd Arolygol.
Gellir archebu tystysgrifau copi ar safle we y Swyddfa Cofrestru Cyffredinol, drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu credyd.
Ar gyfer canlyniadau cyfrifiad a ffynnonellau cyn 1837, cysylltwch â Gwasanaeth Archifau Ynys Môn.
Ceir fynegai i briodasau ar Ynys Môn 1837-1937 ar cd yn y llyfrgelloedd mwyaf ac yn yr Archifau. Mae mynegai i rai genedigaethau ar gael yn yr Archifau.