Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd: y broses hyd at fabwysiadu


Dyma amlinelliad o'r camau allweddol a'r dogfennau sy'n rhan o'r gwaith paratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

Manylion

Dyma’r cam cyntaf yn y broses o baratoi’r CDLl ar y Cyd.

Mae’r Cytundeb Cyflawni wedi ei rannu’n ddwy ran - yr amserlen a’r Datganiad o Gyfranogiad Cymunedol. Strategaeth i sicrhau fod aelodau o’r cyhoedd ynghyd a budd-deiliaid allweddol yn rhan o’r broses paratoi’r Cynllun yw’r Datganiad.

Statws

Fe gafodd y Cytundeb Cyflawni cyfredol ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ar 3 Mawrth 2016 a gan Gyngor Sir Ynys Môn ar 10 Mawrth 2016.

Dyma gopi o lythyr Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r amserlen diwygiedig.

Mae’n hanfodol fod y Cynllun, yn nhermau ei bolisïau a’i gynigion wedi ei selio ar sail dystiolaeth gadarn a chredadwy a bod yna ystyriaeth wedi ei roddi i bolisïau, cynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd casgliadau’r gwaith casglu gwybodaeth yn cael ei gofnodi mewn cyfres o Bapurau Testun a Chefndir. Bydd y Casglu gwybodaeth gefndirol yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.

Statws

Parhau.

Cyhoeddwyd fersiwn cyflawn ynghyd â llawlyfr o’r ddogfen yn ystod cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn 2011 i 2012.

Mae’r ddogfen yn adnabod rhai o’r materion allweddol sydd angen i’r Cynllun ymdrin ag ef, drafftio gweledigaeth posib, adnabod amcanion strategol posib, awgrymu twf strategol posib ac opsiynau dosbarthu.

Statws

Cwblhawyd 2011 i 2012.

Mae’r ddogfen hon yn cynnig amlinelliad o’r weledigaeth, amcanion ac Hoff strategaeth y Cynllun. Mae’n hanfodol i aelodau o’r cyhoedd a budd-deiliaid wneud sylw ar y Cynllun yn ystod y cyfnod ymgynghori i’r ddogfen Hoff strategaeth.

Statws

Cyfnod ymgynghori cyhoeddus 9 Mai 2013 hyd at 27 Mehefin 2013

Dyma’r fersiwn drafft cyflawn o’r CDLl ar y Cyd. Bydd partoi’r Cynllun Adneuo yn rhoi ystyriaeth i sylwadau a derbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori i’r ddogfen ‘Hoff Strategaeth’.

Statws

Cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi dod i ben ar 31 Mawrth 2015.

Ar 30 Mehefin 2017, derbyniwyd y Cyngor Adroddiad yr Arolygydd ar yr Archwiliad i mewn i Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Daeth yr Arolygwyr i’r casgliad, yn amodol ar y newidiadau a nodir yn Atodiad A a B o’r Adroddiad, bod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 i 2026 yn gadarn. Mae Adroddiad yr Arolygydd ar gael i’w gweld isod. Mae cyhoeddi’r Adroddiad yn dod a’r broses Archwiliad i ben.

Mae Adroddiad yr Arolygydd yn rhwymol a bydd y Cyngor bellach yn ymgorffori’r newidiadau a bennir. Fel sy’n ofynnol gan Reoliadau Cynllun Datblygu Lleol (2005) (fel y’i diwygiwyd), bydd y Cyngor yn gwneud trefniadau i fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd o fewn 8 wythnos o dderbyn yr Adroddiad.

Atodiad A - Cofrestr o Newidiadau Materion sy’n Codi (NMC)

Atodiad BCofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi yr Arolygydd (INMC)

Ar 28 Gorffennaf 2017 penderfynodd Cyngor Gwynedd i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwyendd a Môn.

Penderfynodd Cyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu’r Cynllun ar 31 Gorffennaf 2017.

Felly, mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwyendd a Môn (CDLl ar y cyd) ar 31 Gorffennaf 2017. Daeth yn weithredol ar ddyddiad ei fabwysiadu ac mae’n disodli’r cynlluniau canlynol a pholisïau dros dro:

Ynys Môn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd
Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2009)
Cynllun Lleol Ynys Môn (1996)  
Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn
(a stopiwyd) (2005)
 
Polisi Cynllunio Dros Dro: Safleoedd Mawr
(2011)
 
• Polisi Cynllunio Dros Dro: Clystyrau Gwledig (2011)  

Y CDLl ar y Cyd fydd y sail ar gyfer penderfyniadau am gynllunio defnydd tir yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ac Ynys Môn ac fe gaiff ei ddefnyddio gan y Cynghorau i lywio a rheoli cynigion datblygu.

Dogfennau mabwysiadu’r CDLl ar y Cyd: