Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Taliad gofalwyr di-dâl


Mae'r cynllun hwn wedi cau.

Gwybodaeth wreiddiol

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taliad untro o £500, sydd ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022.

Gwneir y taliad er mwyn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar lawer o ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol maent wedi eu hwynebu. 

Cymhwyster

Mae’r taliad wedi’i anelu at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ar incwm isel.

Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y taliad os:

  • oes ganddoch hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr ond nad ydych yn derbyn taliad gan eich bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch, neu
  • rydych ond yn derbyn premiwm gofalwr fel rhan o fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd

Awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru.

Sut i wneud cais

Rydych chi'n gwneud cais gyda'r cyngor lle rydych chi'n byw, nid cyngor lleol yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano (os yw'n wahanol). 

Er mwyn derbyn y taliad, bydd yn ofynnol i chi gwblhau ffurflen ar-lein.

Bydd angen eich:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • cod didoli'r banc
  • rhif y cyfrif banc

Dyddiad cau

Bydd y cynllun yn cau am 5pm ar 2 Medi 2022.

Taliadau

Os ydych chi wedi cael gwybod bod eich hawliad yn llwyddiannus ond nad yw’r arian wedi cyrraedd eich cyfrif banc erbyn 30 Medi 2022, cysylltwch â’r cyngor ar ôl y dyddiad hwn.

Os na chymeradwyir eich hawliad 

Bydd eich hawliad yn cael ei wrthod os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Allwch chi ddim apelio na gofyn am adolygiad o'ch hawliad.  Efallai y gall y cyngor eich helpu chi os oedd gwybodaeth ar goll o'ch ffurflen gofrestru. 

Cymorth pellach

Os byddwch yn parhau i ddioddef caledi ariannol difrifol, efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol Y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) - LLYW.CYMRU  

Isod ceir manylion mudiadau gofalwyr cenedlaethol sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. 

Gofalwyr Cymru: Yn darparu cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi gofalwyr. Llinell gyngor – o ddydd Llun i ddydd Gwener: 0808 808 7777 gwefan www.carersuk.org/wales 

Fforwm Cymru Gyfan: Yn darparu llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu. 029 2081 1120 admin@allwalesforum.org.uk gwefan www.allwalesforum.org.uk 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: Wedi ymrwymo i wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau i ofalwyr di-dâl. 0300 772 9702 wales@carers.org gwefan www.carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-wales-welsh