Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynhwysiant ariannol


Mae Tîm Cynhwysiant Ariannol a Digidol y cyngor wrth law i gefnogi trigolion os ydynt yn profi anawsterau ariannol. 

Tîm Cynhwysiant Ariannol a Digidol 

Mae'r tîm yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim ar amrywiaeth o faterion, megis:

  • cael gafael ar wybodaeth am filiau cyfleustodau a chymorth ariannol a allai fod ar gael ar gyfer dŵr/nwy a thrydan; gan gynnwys cael mynediad at gredyd ar gyfer mesuryddion rhagdalu i'r rhai sy'n gorfod hunanynysu ac nad ydynt yn gallu ymweld â man talu
  • cael mynediad i fanciau bwyd os nad oes gan rywun incwm/cynilion i brynu bwyd
  • cyngor ar gyllidebu
  • rhoi gwybod am unrhyw newidiadau ar Lyfryn Cofnodi Credyd Cynhwysol neu reoli hawliad Credyd Cynhwysol ar-lein

Cyngor a chefnogaeth

Gall y tîm hefyd gynnig cyngor ar gael mynediad at gyfrifon banc, gan drafod opsiynau tai megis symud i lety mwy fforddiadwy. Gall y Tîm hefyd helpu gyda chyngor ar ddyledion a datblygu hyder a galluoedd ariannol beth bynnag fo sefyllfa rhywun. 

Yn ogystal, os ydych yn denant cyngor ac yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch â'ch Swyddog Rheoli Tai ar 01248 752 200 i drafod eich pryderon. 

Gall swyddogion roi cyngor ar y ffordd orau i ddelio â’r sefyllfa, boed hynny i wneud trefniant, trafod sut i wneud y mwyaf o’ch incwm, cynghori ar sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, Budd-dal Tai, Taliad Tai yn ôl Disgresiwn, neu eich cyfeirio at asiantaeth arbenigol fel Canolfan JE O'Toole neu Cyngor ar Bopeth.

Costau byw

Mae gennym dudalen sy'n rhoi cyngor am gostau byw. Efallai y byddwch am gysylltu â'r Tîm Cynhwysiant Ariannol o hyd ar ôl darllen y wybodaeth.

Ewch i wybodaeth costau byw

Band eang

Oeddech chi'n gwybod os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol gall fod gennych hawl i fand eang diderfyn gyda BT am £15 y mis? Defnyddiwch y ddolen isod i weld a ydych yn gymwys. 

Gweld a ydych yn gymwys (gwefan allanol - yn Saesneg yn unig)

Dŵr Cymru

Ydych chi ar incwm isel? Ydych chi wedi gwirio i weld a allwch chi ostwng eich bil Dŵr Cymru?

Mae Dŵr Cymru yn cynnig nifer o wahanol dariffau i bobl a all fod ar incwm isel, neu fod a phroblemau iechyd meddygol.

Efallai y bydd Dŵr Cymru hefyd yn gallu cynnig cynllun i chi i helpu i glirio eich ôl-ddyledion Dŵr.

Darganfod mwy

Siopa o gwmpas

Fel tîm cynhwysiant ariannol, rydym bob amser yn argymell eich bod yn chwilio am y bargeinion gorau o ran cyflenwyr ynni, yswiriant car, yswiriant cartref, yswiriant anifeiliaid anwes ac ati. Mae nifer o wefannau cymharu y gallwch eu defnyddio ar-lein.

O fis Ebrill 2013, mae’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yng Nghymru yn disodli rhannau o’r Gronfa Gymdeithasol a oedd yn cael ei rhedeg yn flaenorol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a oedd yn cael ei hadnabod fel ‘benthyciadau argyfwng’ neu ‘grantiau gofal cymunedol’. 

Bydd angen cyflwyno hawliadau newydd i DAF ar gyfer argyfyngau neu eitemau sylfaenol. 

Mae’r gronfa yn cynnig taliadau grant neu gymorth at ddau ddiben:

  • EAP: Taliadau Cymorth Argyfwng i roi help i chi mewn argyfwng neu pan fo bygythiad uniongyrchol i'ch iechyd neu'ch lles chi neu rywun yn eich teulu

  • IAP: Taliadau Cymorth Unigol i'ch helpu chi, neu rywun rydych yn gofalu amdanynt i fyw'n annibynnol yn y gymuned ac atal yr angen am ofal sefydliadol. Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais am Daliad Cymorth Unigol, cysylltwch â'r tîm cynhwysiant ariannol

Gallwch wirio a ydych yn gymwys, cael manylion cyswllt neu gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Cymorth Dewisol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Darganfyddwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru

Ydych chi'n cael trafferth talu’ch rhent neu'n cael ei effeithio gan y dreth ystafell wely?

Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Daliad Tai Dewisol (TTD).

Mae hwn yn grant sy’n helpu pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai i allu talu eu rhent fel mesur tymor byr tra byddwch mewn caledi ariannol.

Mae’r Taliad Tai Dewisol hefyd yn cynnig cymorth i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a budd-dal tai i wneud cais am gostau symud, blaendaliadau ar gyfer eiddo a chostau talu rhent ymlaen llaw.

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r TTD, cysylltwch â'ch swyddog tai neu'r tîm cynhwysiant ariannol. 

Darganfod mwy am y TTD

Bwyd da Môn

Mae Bwyd da Môn yn gynllun menter gwastraff bwyd.

Trwy ddod yn aelod am £5 yr wythnos gallwch leihau eich gwariant wrth siopa am fwyd. Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth. 

Darganfod mwy am gynllun Bwyd Da Môn

Banc Bwyd

Os ydych mewn argyfwng ac yn methu â phrynu unrhyw fwyd, cysylltwch â'r tîm cynhwysiant ariannol.

Efallai y byddwn yn gallu trefnu parsel bwyd i chi. 

Darganfod mwy am banciau bwyd ar Ynys Môn

Ydych chi'n cael trafferth rheoli'ch arian ac angen rhywfaint o help gyda chyllidebu?

Cynlluniwr Cyllideb gan HelpwrArian

Fel arall, os hoffech wneud cais am gymorth cyllidebu un i un, cysylltwch â'r tîm cynhwysiant ariannol.

Dyled

Os ydych yn poeni am eich dyledion ac os hoffech gael cymorth i ddelio â hyn, defnyddiwch wefan Helpwr Arian i ddod o hyd i’ch gwasanaeth cymorth dyled agosaf.

Dewch o hyd i'ch gwasanaeth cymorth dyled agosaf

Benthycwyr arian didrwydded

Cael mwy o wybodaeth am ble i gael cymorth gyda benthycwyr arian didrwydded.

Help gyda benthycwyr arian didrwydded gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru

Mae gwybodaeth am gyfrifon banc sylfaenol a sut i ddewis y cyfrif banc iawn i chi ar gael ar wefan HelpwrArian.

Darganfod mwy am gyfrifon banc gyda HelpwrArian