Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Sefydliadau a all helpu


Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol, dienw a rhad ac am ddim ar wefan GOV.UK i wirio pa fudd-daliadau sy’n ddyledus i chi.

Mae nifer o’r cynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael eu talu’n awtomatig os ydych yn hawlio’r budd-daliadau perthnasol ac os ydych yn hawlio’r budd-daliadau cywir gallech fod yn gymwys i dderbyn rhagor o gymorth ariannol.

I ddysgu mwy, ewch i wefan LLYW.CYMRU neu ffoniwch 0808 250 5700. 

Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cymorth a chyngor di duedd rhad ac am ddim ar faterion fel:

  • costau byw
  • dyledion
  • cyngor ariannol
  • Y Dreth Gyngor
  • biliau trydan, dwr a nwy

Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch 08082 787 932. 

Cyngor budd-daliadau

I dderbyn cyngor am fudd-daliadau cysylltwch ag uned Hawliau Lles y cyngor yng Nghanolfan J.E. O’Toole.

Ffôn: 01407 760 208

E-bost: otoole@ynysmon.llyw.cymru

Y cyngor

Gall Tîm Cynhwysiant Ariannol y cyngor gynnig cymorth ac arweiniad ynglyn â biliau cyfleustodau a chymorth ariannol posib, yn ogystal â chymorth i lunio cyllideb.

Ewch yn ôl i'r brif dudalen