Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Digartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref


Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref, cysylltwch â Chyngor Sir Ynys Môn a gallant roi cyngor a chymorth i atal digartrefedd. 

Gallwch hefyd ffonio 01248 752 200.

Digartref Ynys Môn

Mae Digartref Ynys Môn yn rhedeg Canolfan Ddydd Lighthouse, canolfan alw heibio i unigolion 18 oed a throsodd sydd yn cysgu allan, yn ddigartref, yn wynebu’r bygythiad o ddod yn ddigartref neu sydd yn wynebu anawsterau yn gysylltiedig â thai.

Mae’r gwasanaeth ar agor 7 diwrnod yr wythnos drwy’r flwyddyn yn 19 Stryd Williams, Caergybi ac er y gellir derbyn atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaeth hwn, nid yw hynny’n ofynnol a gall pobl alw heibio’r ganolfan. 

Ffoniwch 01407 769 995 neu ewch i wefan Digartref.

Shelter Cymru

I dderbyn cymorth a chyngor ynglŷn â thai, ffoniwch llinell gymorth frys Shelter Cymru ar 08000 495 495 (9.30am i 12.30pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener).

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Shelter Cymru

Cysylltwch â landlordiaid tai cymdeithasol

Cyngor Sir Ynys Môn: 01248 752 200

Grŵp Cynefin: 03001 112 122

Tai Gogledd Cymru: 01492 572 727

Ewch yn ôl i'r brif dudalen