Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymorth gyda chostau'r cartref


Rhent a morgeisi

Tenantiaid y cyngor

Os ydych yn denant i’r cyngor ac os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch â’ch Swyddog Rheoli Tai ar 01248 752 200 i drafod eich pryderon.                                                                       

Rhenti preifat a morgeisi

MoneyHelper

Mae MoneyHelper yn wefan a gefnogir gan y llywodraeth sydd yn eich cynorthwyo i ganfod y cymorth cywir, a hynny yn rhag ac am ddim. 

Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor a chymorth diduedd a rhad ac am ddim. 

Ewch i wefan Cyngor Ar Bopeth neu ffoniwch: 0808 278 7932 

Cymorth i Aros - Cymru

Mae cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig cymorth i berchnogion tai yng Nghymru sy’n wynebu trafferthion ariannol wrth dalu eu morgais. 

Cymorth gyda chostau tanwydd yn y cartref 

Daeth y Cynllun Cymorth Biliau Ynni i ben ym mis Mawrth 2023.

  • Os ydych yn cael trafferth talu am danwydd ar gyfer eich cartref rydym yn eich annog i gysylltu â’ch cyflenwr ar unwaith.
  • Os nad ydych yn gallu rhoi arian ar eich mesurydd talu ymlaen llaw bydd y rhan fwyaf o gyflenwyr yn rhoi credyd brys i chi, ac efallai y cewch ragor o gymorth os yw eich cyflenwr yn penderfynu eich bod yn agored i niwed. Efallai y bydd modd talu’r arian yn ôl mewn rhandaliadau.
  • Gallwch ofyn i sefydliadau partner, megis Cymorth Ar Bopeth, eich cyfeirio at y Sefydliad Banc Tanwydd os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwyso.
  • Os ydych yn 75 oed neu’n hyˆn ac os oes gennych system wresogi olew, dylai eich enw gael ei ychwanegu at y Fenter Blaenoriaeth Tywydd Oer os yw eich cyflenwr yn aelod o UKIDFA. Bydd rhaid i’ch cyflenwr ddarparu’r tanwydd sydd ei angen arnoch wedyn.
  • Gallai cymorth cyfyngedig fod ar gael gyda thanwydd i gartrefi nad ydynt ar y rhwydwaith nwy trwy dîm cynhwysiant ariannol y cyngor. Ni fydd y cymorth hwn ar gael ar ôl i’r cynllun presennol ddod i ben.
  • Gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Brys o’r Gronfa Cymorth Ddewisol (DAF). Dylid troi at y gronfa hon dim ond os nad oes dewis arall ac mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais am gymorth o leoedd eraill yn gyntaf, megis benthyciad cyllidebu gan y Swyddfa Gwaith a Phensiynau neu daliad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw, os yw’n berthnasol. 

Am fanylion llawn ac i wneud cais ewch i wefan LLYW.CYMRU neu ffoniwch: 0800 859 5924 

Taliad Tywydd Oer

Efallai y byddwch yn derbyn Taliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol neu gymorth gyda llog morgeisi. Byddwch yn derbyn taliad os yw’r tymheredd cyfartalog yn gostwng i 0 gradd Celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol. Bydd cynllun 2023i 2024 yn agor ym mis Tachwedd 2023.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn y taliad yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Bydd y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ailagor ym mis Hydref 2023. Mae’n cael ei dalu gan y cyflenwr fel gostyngiad ar y bil.

Dylai unrhyw un sy’n gymwys dderbyn llythyr erbyn Tachwedd neu Rhagfyr 2023, ac nid oes angen ymgeisio.

Byddwch angen enw eich cyflenwr trydan, manylion unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn, maint ac oedran eich eiddo ac oes gan yr eiddo dystysgrif perfformiad ynni (EPC).

Gallwch deipio eich cod post i ddarganfod gradd EPC eich eiddo. 

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1957 efallai eich bod yn gymwys i dderbyn rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Dyma’r ‘Taliad Tanwydd Gaeaf’.

Mae’r swm sy’n cael ei dalu’n cynnwys ‘Taliad Costau Byw ar gyfer Pensiynwyr’ o rhwng £150 a £300. Byddwch yn derbyn y swm ychwanegol yn ystod Gaeaf 2023 i 2024. Mae hyn yn ychwanegol i unrhyw Daliadau Costau Byw eraill yr ydych yn eu derbyn gyda’ch budd-dal neu gredyd treth.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn y taliad yn awtomatig os ydynt yn gymwys. 

Dim y cyngor sy’n gyfrifol am weithredu’r cynlluniau yma ac nid y cyngor sy’n gyfrifol am wneud y taliad. 

Cofrestru am wasanaeth blaenoriaeth gyda chyflenwr ynni

Gallwch gael cymorth i wneud eich cartref mor gynnes â phosib os ydych yn breswylydd sydd ag anabledd, cyflwr iechyd, yn bensiynwr, neu os oes gennych blentyn dan 5 oed, neu os ydych yn feichiog.

Gellir gwneud hyn trwy wneud newidiadau bach yn eich defnydd o ynni, lleihau draff- tiau, insiwleiddio a thrwy fesurau eraill megis gosod paneli solar trwy gynlluniau fel ECO a Nyth.

Os ydych yn dymuno cael gwybod mwy am y cynllun Nyth ac i weld a ydych yn gymwys, ffoniwch Rhadffon 0808 808 2244 neu ewch i wefan Nyth

Deall eich biliau a deall tariffau

Ystyriwch osod mesurydd clyfar yn eich cartref – holwch eich cyflenwr ynni.

Gall Cyngor ar Bopeth eich cynorthwyo i ddeall eich tariffau.

Ffoniwch 0808 278 7932 

Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain

Elusen gofrestredig sy’n cynorthwyo unigolion a theuluoedd mewn tlodi, dioddefaint neu anhawster arall sy’n cael trafferth talu eu dyledion nwy neu drydan. 

Gellir defnyddio’r grantiau i dalu costau angladd hefyd. 

Ffoniwch 01733 421 021 neu ewch i wefan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain.

Bwyd a bil dŵr

Bwyd Da Môn

Mae hwb cymunedol Bwyd Da Môn wedi’i leoli mewn siop nid er elw sy’n ail-ddosbarthu cynnych o nifer o archfarchnadoedd a chynhyrchwyr eraill. Mae’r siop yn glwb bwyd am dâl aelodaeth isel.

Mynediad at fwyd

Fel arfer mae angen atgyfeiriad gan asiantaeth partner, felly, os oes gennych weithiwr cymorth, siaradwch â nhw neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth neu Ganolfan J.E. O’Toole i ofyn am atgyfeiriad.

Prydau ysgol am ddim

Mae gwybodaeth am brydau ysgol am ddim ar y wefan hon.

Dŵr

Ewch i wefan Dŵr Cymru neu ffoniwch 0800 917 2652 a gofynnwch am gymorth i dalu eich biliau trwy gynlluniau megis HelpU neu Water Sure. 

Ffonau a’r rhyngrwyd

Ar wefan Ofcom, ewch i’r tab Ffonau a’r rhyngrwyd a chwiliwch am ‘band eang rhad’ neu ‘cheap broadband’. 

Hylendid

Os ydych yn cael trafferth fforddio cynnyrch misglwyf hanfodol, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i helpu.

Gellir casglu tamponau a/neu badiau am ddim, heb orfod ateb cwestiynau diangen na theimlo embaras, o Cyswllt Môn ym mhencadlys y cyngor, yn Llangefni, Canolfan J.E. O’Toole yng Nghaergybi, canolfannau hamdden y cyngor, llyfrgelloedd y cyngor, ysgolion uwchradd, Cyngor ar Bopeth a swyddfeydd Môn CF ledled yr ynys. 

Mae nifer o feddygfeydd a gwasanaethau cymorth wedi cytuno i gymryd rhan ac maent wedi derbyn cyflenwad o gynnyrch rhad ac am ddim hefyd.

Gallwn gynnig nifer cyfyngedig o gynnyrch y gellir ei ail ddefnyddio tra bydd rhai mewn stoc.

Ffoniwch 01407 760 208 a siaradwch gyda Christine os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu gallwch ymweld ag unrhyw un o’r lleoliadau uchod i ofyn am yr eitemau.

Ewch yn ôl i'r brif dudalen