Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymorth gyda beichiogrwydd a gofal plant


Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn dan 4 oed

Gallech fod yn gymwys i dderbyn Cerdyn Cychwyn Iach os ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys.

Gyda Cherdyn Cychwyn Iach gallwch brynu ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun, llefrith buwch plaen, codlysiau ffres, wedi’u sychu neu mewn tun, neu fformiwla babanod wedi’i wneud o laeth buwch sy’n addas i fabanod newydd anedig, a chael fitaminau am ddim. 

Ewch i www.healthystart.nhs.uk neu ffoniwch 0300 330 7010. 

Gallwch gysylltu hefyd â thîm cynhwysiant ariannol y cyngor ar 01248 752 284 neu anfonwch e-bost at: financialinclusion@ynysmon.llyw.cymru 

Gallant wirio a ydych yn gymwys a’ch helpu i lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Byddwch yn derbyn y cerdyn yn y post os ydych yn gymwys. Gellir ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o siopau yn y DU a bydd arian yn cael ei roi ar y cerdyn bob 4 wythnos. 

Teulu Môn

Mae Teulu Môn yn darparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad arbenigol, diduedd a rhad ac am ddim am bynciau megis gofal plant, iechyd, hamdden, cefnogaeth i rieni a materion ariannol yn eich ardal a llawer mwy.

Ewch i'r dudalen we Teulu Môn neu ffoniwch 01248 725 888. 

Taliadau Gofal Plant

Mae gwybodaeth am Gynnig Gofal Plant Cymru ar y wefan hon.

Grant Hanfodion Ysgol (Y Grant Datblygu Disgyblion yn flaenorol)

Gall plant o deuluoedd cymwys ymgeisio am grant o £125 i bob dysgwr, neu £200 i ddysgwyr sy’n cychwyn ym Mlwyddyn 7.

Gall plant cymwys sydd â’u teuluoedd ar incwm isel wneud cais am grant o £125 i bob dysgwr neu £200 i ddysgwyr sy’n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd). 

Prydau ysgol am ddim

Mae gwybodaeth am brydau ysgol am ddim ar y wefan hon.

Ewch yn ôl i'r brif dudalen