Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cefnogaeth i gyn-filwyr


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cydweithio ag Elusen Lluoedd Arfog y DU er mwyn cefnogi cyn-filwyr sy’n profi caledi ariannol.

Yn ddiweddar, bu’r cyngor sir sicrhau £580,000 er mwyn darparu'r Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd rhan o’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn cefnogi cyn-filwyr lleol.

Bydd y cyllid, yn seiliedig ar angen a aseswyd, yn darparu taliad hyd at £300 fesul cartref, gyda Changen o’r SSAFA yn dosbarthu’r taliad i gyn-filwyr cymwys.

Gwneud cais

Fe ddylai cyn-filwyr sydd angen mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gysylltu â Kath Eastman drwy ffonio (01407) 861 171 neu gellir anfon neges e-bost at Kath.Eastment@Anglesey.ssafa.org.uk

Ewch yn ôl i'r brif dudalen