Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Thaliadau Tai Dewisol ac Y Gronfa Gymdeithasol


Taliadau Tai Dewisol (TTD)

Efallai y bydd gennych hawl i TTD yn unol â disgresiwn Cyngor Sir Ynys Môn. Nod y gronfa yw darparu cymorth ychwanegol gyda chostau tai a hynny ar ben eich Budd-dal Tai.

Pwy mae’n ei helpu?

Os bydd gennych hawl i Fudd-dal Tai neu i’r elfen costau tai o gredyd cynhwysol byddwch yn gallu gwneud cais am Daliad Tai Dewisol. Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda nad oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn cael y gronfa.

Mae’r gronfa ar gyfer cefnogi unigolion ac mae Llywodraeth y DU wedi ychwanegu ati er mwyn helpu gyda newidiadau mewn perthynas â Diwygio Lles megis y Cap ar Fudd-daliadau a newidiadau eraill i Fudd-daliadau Tai.

Ni all Cyngor Sir Ynys Môn helpu pawb felly rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn â blaenoriaeth.

Beth all taliadau tai dewisol?

Gellir rhoi TTD i dalu’r gwahaniaeth rhwng eich budd-dal tai a’ch rhent gan gynnwys achosion lle cafwyd gostyngiad yn y budd-dal tai oherwydd:

  • y ‘dreth ystafell wely’
  • y cap ar fudd-daliadau
  • arian wedi ei dynnu ar gyfer pobl nad ydynt yn ddibynnol (e.e. Ar gyfer meibion neu ferched wedi tyfu i fyny sy’n byw gyda chi)
  • newidiadau i’r lwfans tai lleol
  • cyfradd llety a rennir i bobl sengl

Gallwch gael TTD i dalu am gostau sefydlu tenantiaeth newydd, fel blaendal rhent, rhent ymlaen llaw neu gostau symud. Gall Cyngor Ynys Môn eich helpu hefyd i atal i chi ddod yn ddigartref ac mewn rhai sefyllfaoedd, gellir gwneud taliadau i’ch helpu chi gyda’r dyledion rhent.

At ba bethau fydd cymorth ddim ar gael?

Ni fydd Taliadau Tai Dewisol yn cael eu talu i gwrdd ag unrhyw gynnydd mewn rhent oherwydd dyledion neu unrhyw daliadau adennill taliad o’ch budd-dal tai. Ni ellir eu defnyddio i helpu i dalu sancsiynau Job Centre Plus (JCP) neu ostyngiad mewn budd-dal.

Faint gaiff ei dalu?

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn penderfynu a ddylid talu Taliadau Tai Dewisol, faint i’w roi, ac am faint o amser. Gall dyfarniadau fod yn daliadau unwaith yn unig, neu yn rhai tymor byr neu am gyfnod amhenodol.

Apelio yn erbyn y penderfyniadau

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich cais neu eich dyfarniad TTD gallwch ofyn i Gyngor Sir Ynys Môn adolygu ei benderfyniad. Yna, cynhelir adolygiad newydd ac fe gewch lythyr i egluro’r penderfyniad.

Sut i wneud cais

Mae'r ffurflen gais ar gael i'w lawrlwytho isod.

Dychwelwch y ffurflen ac unrhyw wybodaeth ychwanegol os gwelwch yn dda i: Cyngor Sir Ynys Môn, Refeniw a Budd-daliadau, Blwch Post 29, Llangefni, LL77 7ZF. 

Neu, fe allwch drefnu apwyntiad gyda Swyddog Hawliau Lles yng Nghanolfan J.E. O’Toole yng Nghaergybi.

Y Gronfa Gymdeithasol

O Ebrill 2013, bydd y Gronfa Cymorth Dewisol (CCD) yng Nghymru yn disodli rhannau o’r Gronfa Gymdeithasol a oedd yn cael ei rhedeg eisoes gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, sef y ‘benthyciadau argyfwng’ neu’r ‘grantiau gofal cymunedol’.

Bydd angen cyfeirio unrhyw hawliadau newydd am gymorth argyfwng neu am eitemau sylfaenol i’r CCD.

Mae’r gronfa cynnig grantiau neu gefnogaeth i ddau bwrpas:

TCA: Taliadau Cymorth Argyfwng i’ch helpu mewn argyfwng neu mewn achos lle mae bygythiad i’ch iechyd neu’ch lles chi neu i iechyd a lles rhywun yn eich teulu.

TCI: Taliadau Cymorth Unigol, i’ch helpu chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt i fyw’n annibynnol yn y gymuned a gwneud i ffwrdd â’r angen am ofal sefydliadol.

Sut i ymgeisio am TCA neu TCI

Gellwch ymgeisio dros y ffôn, ar-lein neu drwy’r post

Ffoniwch y rhif rhadffôn - 0800 859 5924 - galwad am ddim o linell dir neu ffoniwch 033 0101 5000 - codir cyfraddau lleol.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.