Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynys Ddigidol


Mae ein Strategaeth Ddigidol yn amlinellu’r camau fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn eu cymryd o ran defnyddio a datblygu technolegau TGCh i ddarparu gwasanaethau. Bydd hyn yn creu deilliannau sydd o bwys i’n dinasyddion a busnesau lleol ac yn cefnogi cyfraniad Cyngor Sir Ynys Môn o ran sicrhau bod Ynys Môn yn ynys sy’n ffynnu, yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy a bod amddifadedd ac anghydraddoldeb yn cael eu lleihau.

Y nod yw gosod gwasanaethau TGCh ar yr un lefel â dyheadau ehangach y Cyngor. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau TGCh yn gweithredu fel hwylusydd ac fel sail ar gyfer trawsnewid ar draws y Cyngor, drwy wella’r deilliannau i ddinasyddion ac ychwanegu gwerth i’w cysylltiadau gyda’r Cyngor. Mae’n diffinio ein gweledigaeth, themâu allweddol a’n cyfeiriad cyffredinol.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.