Fel cyflogwr o ddewis, mae Ynys Môn yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, ond mae gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn yn fwy na dim ond swydd; mae'n ymwneud â gwneud bywyd yn well i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys.
Ewch i'n swyddi gwag
Bwletin swyddi
Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin i dderbyn ein cyfleoedd gwaith diweddaraf.
Cofrestrwch
Nod y cyngor yw:
bod yn Gyngor proffesiynol, sy’n cael ei redeg yn dda ac sy’n arloesol ac yn eangfrydig ei ymagwedd, gydag ymrwymiad i ddatblygu ein pobl a’n partneriaethau er mwyn darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol o ansawdd da, sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ein dinasyddion.
Rydym yn rhoi'r opsiwn i bobl ag anableddau wneud cais am swyddi gwag mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01248 750 057 os gwelwch yn dda i gael rhagor o gyngor.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymrwymedig i gyfleon cyfartal wrth ddarparu ei wasanaethau ac yn ei rôl fel cyflogwr mawr, ac i ddileu gwahaniaethu annheg ac anghyfreithlon yn ein holl bolisïau, gweithdrefnau ac arferion.
Nodir y gofynion Iaith Gymraeg ar gyfer pob swydd yn y disgrifiadau swydd.
Os hoffech wella'ch sgiliau iaith Gymraeg, mae yna amrywiaeth o opsiynau dysgu ar gael trwy Dysgu Cymraeg
Bydd raid cael Tystysgrif GDG foddhaol a chyfredol ar gyfer rhai swyddi penodol. Bydd y gofyn hwn wedi ei nodi bob amser yn y disgrifiad swydd perthnasol.