Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Paneli Canlyniad Sgriwtini


Mae gan bob pwyllgor sgriwtini y gallu i sefydlu Panel Canlyniad Sgriwtini (fel arfer nid yw’n cynnwys mwy na phum aelod sgriwtini) i gynnal adolygiad manwl ar bwnc y nodwyd sy’n peri pryder sylweddol i aelodau, swyddogion, yr awdurdod neu aelodau’r cyhoedd.

Unwaith mae’r wybodaeth wedi’i chasglu bydd y Panel Canlyniad Sgriwtini yn ystyried popeth y mae wedi’i ddysgu ac yn dadansoddi hynny er mwyn darparu adroddiad, gydag argymhellion, i’w gyflwyno i’r rhiant Pwyllgor Sgriwtini i’w gymeradwyo fel y gall gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

I sicrhau bod y gwaith o gynnal yr adolygiad yn cael ei weld yn bositif, ac i sicrhau bod y swyddogaeth Sgriwtini yn parhau yn effeithiol, bydd y rhiant pwyllgor Sgriwtini yn monitro gweithrediad adolygiad yr argymhellion. Os yw’r aelodau’n anhapus gyda’r cynnydd a wnaed neu gyda’r camau gweithredu a gymerwyd yn dilyn yr adolygiad, gallai’r prif Bwyllgor Sgriwtini benderfynu y dylid gwneud gwaith sgriwtini pellach.

Mae’n bwysig peidio anghofio mai pwrpas cynnal adolygiad sgriwtini yw ychwanegu gwerth a dod â gwelliannau gwirioneddol i drigolion Ynys Môn.