Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Strategaeth Hybu'r Gymraeg


Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ar Ynys Môn. Gyda dros hanner poblogaeth yr ynys yn siarad Cymraeg, mae’r iaith yn fyw yn y cartref, yn y gweithle, ac yn ein cymunedau. 

Cafodd ail strategaeth pum mlynedd y Cyngor at gyfer hybu’r Gymraeg ei gymeradwyo ar 7 Rhagfyr 2021. Mae’n esbonio sut yr ydym yn bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg a hwyluso defnydd o’r iaith yn ehangach ar Ynys Môn rhwng 2021 a 2026.

Mae hefyd yn gosod targed ar gyfer cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg ar yr ynys. 

Meysydd blaenoriaeth y strategaeth yw:

  • plant, pobl ifanc a’r teulu
  • y gweithle, gwasanaethau Cymraeg a’r seilwaith
  • y gymuned

Caiff y strategaeth ei chyhoeddi a’i gweithredu fel rhan o ofynion safonau’r Gymraeg.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.