Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Polisi iaith a safonau iaith Gymraeg


Safonau’r Gymraeg a pholisi iaith Gymraeg

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu’r egwyddorion na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru ac y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Ein polisi iaith Gymraeg sy’n egluro sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddorion hyn.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod ystod o safonau arnom y mae’n rhaid i ni eu cwrdd er mwyn darparu gwasanaeth Cymraeg o safon. Mae’r polisi iaith Gymraeg hefyd yn esbonio sut y byddwn yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg. 

Mae’r polisi iaith Gymraeg, a safonau’r Gymraeg sydd wedi eu gosod ar y Cyngor, ar gael i’w darllen ar y dolenni perthnasol isod.

Cwynion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg

Os hoffech wneud cwyn am gydymffurfiaeth y Cyngor â safonau'r Gymraeg neu fethiant gennym i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, defnyddiwch ein gweithdrefn bryderon a chwynion.

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion am gydymffurfiaeth y Cyngor â safonau’r Gymraeg yn uniongyrchol at Gomisiynydd y Gymraeg.

Archif: Adroddiadau blynyddol ar safonau'r Gymraeg