Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Diwrnod Hawliau'r Gymraeg: 7 Rhagfyr 2022


Yr wythnos hon rydym yn dathlu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg trwy dynnu sylw at yr holl wasanaethau cyfrwng Cymraeg rydym ni’n eu cynnig.

Mae hyn oherwydd bod Dydd Mercher, 7 Rhagfyr yn ddiwrnod hawliau’r Gymraeg.

Dyma’r dyddiad cafodd Mesur y Gymraeg ei basio gan y Senedd. Rhoddodd y mesur statws swyddogol i’r iaith a sefydlodd hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda sefydliadau cyhoeddus, fel Cyngor Sir Ynys Môn.

Gyda ni mae gennych hawl i:

  • gael llythyrau ac e-byst yn Gymraeg
  • sgwrsio’n Gymraeg hefo ni ar y ffôn neu wyneb yn wyneb
  • darllen y Gymraeg ar arwyddion, mewn dogfennau ac ar ein gwefannau
  • trio am swydd yn y Gymraeg 
  • defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith

Eleni, rydym yn dathlu’r diwrnod drwy dynnu sylw at y swigen oren ‘iaith gwaith’ sy’n dangos bod gwasanaeth Cymraeg ar gael. Mae i’w weld yn ein derbynfeydd, ar e-byst, ac rydym yn annog ein holl swyddogion sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg i’w wisgo.

Lle bynnag y gwelwch chi’r swigen oren, defnyddiwch ei hawl i ddefnyddio’r Gymraeg hefo ni.

I wybod mwy am ein gwasanaethau cyfrwng Cymraeg e-bostiwch cymraeg@ynysmon.llyw.cymru