Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynglŷn â Diogelu data a rhyddid i wybodaeth


O 1 Ionawr, 2005 ddaeth Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (RhGA) i rym. Mae’r rhain yn rhoi i unigolion a sefydliadau hawl gyfreithiol gyffredinol i gael mynediad i wybodaeth y mae’r cyngor yn ei chadw.

Mae llawer o wybodaeth ar gael yn barod ac mae llawer ohono ar ein gwefan.

Os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, ysgrifennwch at y cyfeiriad a ddangosi neu gysylltu gyda foi@ynysmon.llyw.cymru

Wrth ofyn neu gyflwyno cais am wybodaeth nodwch, mewn ysgrifen y manylion a ganlyn os gwelwch yn dda:-

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • rhif ffôn yn ystod y dydd, e-bost
  • y wybodaeth neu’r dogfennau y mae arnoch eu hangen. Gofynnir i chi ddarparu disgrifiad llawn o’r wybodaeth a hefyd bod mor benodol â phosib.
  • ym mha fodd neu ddull yr hoffech gael y wybodaeth, un ai copi papur neu e-bost etc

O bosib bydd y tab “Gwasanaethau” yn ddefnyddiol o ran adnabod yr holl wasanaethau mae’r cyngor yn darparu.

Os gwneir cais, mae rhaid cael eich hysbysu:

  • os mae’r wybodaeth gan y cyngor; ac
  • os oes ganddi (ac nid yw’n eithriedig), mae rhaid i’r wybodaeth gael ei rhoi i chi o fewn ugain niwrnod gwaith