Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ganwyd Yng Nghymru


Cefndir

Cymerwch ran yn yr arolygon hyn a helpwch ymchwilwyr i ddarganfod sut y gall teuluoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a llunwyr polisi helpu i gefnogi teuluoedd a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

Lansiodd ymchwilwyr yng Nghanolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) yr astudiaeth Ganwyd yng Nghymru ym mis Medi 2020. 

Ariannwyd yr arolwg gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae dau arolwg ar gael; un i ddarpar rieni ac un i rieni gyda phlant rhwng 18 mis a dwyflwydd a hanner oed.  

Darpar rieni

Mae arolwg ar gael ar gyfer mamau beichiog, partneriaid a chyplau o’r un rhyw. 

Mynd i’r arolwg ar gyfer darpar rieni

Plant rhwng 18 mis a dwyflwydd a hanner oed

Mynd i’r arolwg ar gyfer rhieni â phlant rhwng 18 mis a dwyflwydd a hanner oed

Plant yn y feithrinfa

Ewch i'r arolwg ar gyfer rhieni sydd â phlentyn yn y feithrinfa