Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Apêl ar gyfer Wcráin


Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel

Rydym yn gwybod bod pobl Ynys Môn yn awyddus i helpu.

Mae Cymru wedi ymrwymo i gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU fel uwch-noddwr. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl o Wcráin nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau teuluol yn y DU neu sydd â noddwr unigol i geisio diogelwch yng Nghymru, sy'n Genedl Noddfa. Mae mwy o wybodaeth am bob agwedd ar fywyd yng Nghymru ar wefan Noddfa Llywodraeth Cymru. Mae hwn ar gael yn Wcreineg a Rwsieg. 

Gall pobl sy'n ffoi o Wcráin sydd am ddod i'r DU ddewis cael eu noddi am fisa gan Lywodraeth Cymru. Unwaith y bydd y fisa'n cael ei ganiatáu, bydd canolfan gyswllt Llywodraeth Cymru yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol i gadarnhau'r trefniadau pan fyddan nhw’n cyrraedd. Bydd angen iddynt wneud eu ffordd eu hunain i'r DU. Ond unwaith yma, byddant yn gymwys i deithio am ddim ymlaen i Gymru ac i un o'r canolfannau croeso, sydd wedi'u sefydlu ledled y wlad i ddarparu llety a chymorth ar unwaith i newydd-ddyfodiaid o Wcráin. 

Yn y canolfannau croeso, bydd pawb yn cael cymorth a chefnogaeth i ymgartrefu yng Nghymru. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael i bobl nad ydynt yn siarad Saesneg a bydd cyfleoedd i ddechrau dysgu Cymraeg – a Saesneg. Bydd gwasanaethau iechyd ar gael; bydd plant yn dechrau gwersi a bydd cyngor i helpu pobl i ymgartrefu mewn gwlad newydd; help gydag arian a budd-daliadau lles a chyngor ar ddod o hyd i waith. Bydd llety ar gael ar y safle yn y canolfannau croeso ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddod o hyd i gartref i bob unigolyn a theulu ar draws Cymru.

Gwybodaeth pellach

I gael gwybodaeth, gweler:

Cysylltwch gyda Cyngor Sir Ynys Môn

Am gyngor neu wybodaeth bellach, cysylltwch gyda cymorthwcrain@ynysmon.gov.uk os gwelwch yn dda.

Cynnig llety

Yn y cyfamser, os oes gennych enw unigolyn penodol rydych yn dymuno ei noddi, ewch i: https://homesforukraine.campaign.gov.uk/

Os nad ydych yn adnabod neb i’w noddi, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn cynnig llety, mae mwy yn: https://www.gov.uk/guidance/homes-for-ukraine-scheme-frequently-asked-questions

Hysbysiad preifatrwydd

Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw dweud wrthych sut bydd y Cyngor a phartneriaid yn prosesu'ch data personol i'w dibenion cyffredin er mwyn cyflawni'r cynllun a'r amcan cyffredin o ddarparu cartrefi i'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

Council building in Ukraine colours