Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ardrethi annomestig: cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch


Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gael i fusnesau cymwys sy’n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Bydd busnesau cymwys yn cael gostyngiad o 40% yn eu rhwymedigaeth net ar gyfer ardrethi annomestig yn 2024 i 2025.

Ni ddylai uchafswm gwerth ariannol y rhyddhad ardrethi a ganiateir, ar draws pob eiddo yng Nghymru sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes, fod yn fwy na £110,000. 

Cymhwyster

Mae angen i fusnesau ddatgan eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodwyd yn y ddogfen ganllawiau hon a nodi ar gyfer pa eiddo y maent yn dymuno hawlio rhyddhad. Os yw 40% o’r atebolrwydd ar draws eiddo’r busnes yn fwy na £110,000, bydd angen i fusnesau nodi ar gyfer pa eiddo yr hoffent hawlio’r rhyddhad.

Gall busnesau ddewis ar gyfer pa eiddo y byddant yn ceisio rhyddhad. Pan fydd cyfanswm y rhyddhad a ganiateir ar gyfer eiddo eraill yn agos i’r uchafswm o £110,000, gellir caniatáu swm o ryddhad sy’n llai na 40% ar gyfer eiddo cymwys arall.

Ewch i ganllawiau (gwefan Busnes Cymru)

Ffurflen gais

Rhaid cyflwyno ffurflen gais i bob awdurdod lleol y mae’r busnes yn gwneud cais am ryddhad ar gyfer eiddo yn ei ardal. Rhaid i bob ffurflen gynnwys manylion pob eiddo y gwneir cais am ryddhad ar ei gyfer ar draws Cymru. Os na wneir cais, ni ellir rhoi rhyddhad.

Bydd unrhyw ymgais gan fusnes i wneud cais bwriadol i hawlio mwy na £110,000 o ryddhad yn ei roi mewn perygl o golli unrhyw ryddhad a roddwyd o dan y cynllun i’r busnes hwnnw gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.

Bydd gwybodaeth ar ryddhad a hawliwyd o dan y cynllun yn cael ei rhannu gydag awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru, gan eu galluogi i adnabod unrhyw hawliau sy’n gyfanswm o fwy na £110,000 a gweithredu ar y rhain os oes angen.

Lawrlwythwch ffurflen gais o'r dudalen hon.

Hawliadau ffug

Ni fydd Llywodraeth Cymru a Cyngor Sir Ynys Môn yn goddef unrhyw ymgais gan fusnes i ffugio’u cofnodion na rhoi tystiolaeth ffug i gael y gostyngiad hwn. Mae hyn yn cynnwys hawlio cymorth sy’n fwy na’r uchafswm o £110,000 neu’r trothwy eithrio.

Gall busnes sy’n gwneud cais ffug am unrhyw ryddhad, neu sy’n rhoi gwybodaeth ffug neu’n gwneud sylwadau ffug er mwyn cael rhyddhad, fod yn euog o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006 a gall wynebu camau cyfreithiol, yn ogystal â cholli unrhyw Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer eu holl eiddo o dan gynllun 2024 i 2025.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.