Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ble mae Canolfan Fusnes Môn?


Mae Canolfan Gwasanaethau Busnes Ynys Môn wedi ei leoli ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni ar gyrion tref Llangefni.

Mae’r Ganolfan yn darparu amryw o wasanaethau economaidd a busnes – beth am alw heibio i ddarganfod y manteision i’ch busnes neu eich menter arfaethedig?

Mae’r Ganolfan fodern yma’n cynnwys tair adain wahanol a derbynfa ganolog. Yn ychwanegol i’r ardal sydd wedi ei neilltuo i Adain Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, ceir hefyd swyddfeydd a ddefnyddir gan y rhaglen Ynys Ynni a'r Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn ogystal â chyfres o ystafelloedd cyfarfod o faint amrywiol sydd ar gael i’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae’r Ganolfan yn darparu ffocws canolog i  weithgareddau lleol sy’n cefnogi’r economi a chynorthwyo busnesau i ehangu a thyfu.  Mae’r datblygiad yma’n rhan o ymrwymiad tymor hir y Cyngor Sir tuag at sicrhau twf economaidd.

Galwch i mewn - efallai byddwch wedi synnu gyda’r gwasanaethau sydd o fewn eich cyrraedd!

Wrth deithio i’r Ynys ar yr A55 dilynwch yr arwyddion am Gaergybi ac arhoswch ar y lôn fawr nes eich bod yn cyrraedd y tro am Langefni a’r B5114.

Wrth agosáu at Langefni ar y B5114, ar ffiniau’r dref, cymwerwch yr ail troad ar yr y gylchfan, i’r dde am y Stad Diwydiannol. Fel yr ydych yn mynd i lawr yr allt tuag at cylchfan arall, trowch i’r chwith yn y gylchfan ac ewch yn eich blaen am hanner milltir hyd nes y byddwch yn cyrraedd cylchfan fechan. Mae gennych ddewis o ddau faes parcio am ddim. Ewch i fyny’r allt ac yna trowch i’r dde.

O’r cloc yng nghanol y dref: ewch drwy’r maes parcio ger neuadd y dref. Ewch i’r chwith ar draws y bont fechan dros Afon Cefni. Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y llwybr i gyfeiriad swyddfeydd y cyngor. Dilynwch y llwybr ar yr ochr chwith i’r adeilad hyd at y maes parcio uwch. Cerddwch allan o’r maes parcio ac yna ewch yn syth i’r  gyffordd (bydd ATS Tyres yn syth o’ch blaen). Trowch i’r dde a chroeswch y lôn. Cerddwch ymlaen i’r gylchfan fechan a chymerwch y troad i’r chwith. Croeswch y ffordd a cherddwch i fyny’r allt (garej Peugeot i’r chwith). Mae Bryn Cefni ar y dde.  Gweler y map .pdf amgaeedig

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r dderbynfa.

Mae sawl arhosfan bws ar y stad ddiwydiannol. Dilynwch y linc isod ar gyfer ein hamserlenni bws. Bydd rhaid i chwi gerdded am o gwmpas pum munud er mwyn cyrraedd Bryn Cefni.

Mae yna dwy lefel i'r adeilad. Lifft ar gael yn yr adeilad.Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda y Canolfan Fusnes.