Yn dilyn cais llwyddiannus, dyfarnwyd £580,000 i'r swyddogaeth adfywio o Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd rhaglen Adfywio Môn rhwng Ionawr a Rhagfyr 2022 a ddisgrifiwyd fel rhaglen integredig o beilotiaid a threialon arloesol (fel sail ar gyfer dangos tystiolaeth o ymyriadau ehangach yn y dyfodol), gan wneud y gorau o asedau diwylliannol, ieithyddol a choetir, ynghyd â gwella cynaliadwyedd/gwyrddu asedau ffisegol eraill i wella'r economi, cymuned a 'lle'
Eiconau Môn (Anglesey Icons)
Prosiectau i wella a gwneud defnydd gwell o asedau treftadaeth fel sbardunau adfywio a thwristiaeth gynaliadwy, gan gynnwys:
- hyfforddi tywyswyr lleol i ymwelwyr (trwy Gymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru)
- Ap 'Tech Twristiaeth' i ymwelwyr (trwy M-SParc) hynnyyn annog y defnyddiwr i archwilio 5 tref yn Ynys Môn i ddatgloi profiad adrodd stori rhyngweithiol o hanes cyfoethog yr ardal.
- arolygon a chynlluniau ar gyfer cynlluniau adfywio asedau treftadaeth penodol
Coedwig Môn (Anglesey Trees)
Prosiectau i gefnogi coetir a gorchudd coed ar yr ynys, gan gynnwys:
- arolygon gwaelodlin/mapio coed/coetir presennol
- astudiaethau i nodi gwelliannau/cynlluniau plannu posibl
Ynys Werdd (Green Island)
Prosiectau i gefnogi a chynyddu darpariaeth a chynllunio seilwaith gwyrdd, gan gynnwys:
- mapio gwaelodlin o'r seilwaith gwyrdd presennol a'r sefyllfa strategol/polisi
Iaith Môn
Prosiectau i gefnogi a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol, gan gynnwys:
- grantiau i sefydliadau cymunedol a busnesau bach (trwy Menter Môn)
- cefnogaeth i weithgareddau cymunedol a chymorth i deuluoedd y Fenter (trwy Menter Môn)
- arolygon ac ymchwil yn sail i gynlluniau ar gyfer y dyfodol (trwy Brifysgol Bangor)
Mae’r rhaglen yn ddarostyngedig i monitro a gwerthuso, a bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio datblygiad prosiectau a chynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd y DU.