Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

ARFOR ar waith


Logo-Arfor-Tefynol.jpg_800

Rhaglen ARFOR 2 (hyd at Mawrth 2025)

Ar 10 Hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd £11 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer ail wedd ARFOR hyd at diwedd Mawrth 2025.

Bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, er mwyn: “Cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriaethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol”.

Bydd mwyafrif y cyllid yn cael ei reoli yn ranbarthol. 

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen newydd a’i gronfeydd gweler wefan ARFOR.

Bydd gwybodaeth am grantiau sydd i’w rheoli yn lleol yn ymddangos yma pan ar gael.

Cynghorir busnesau neu fentrau cymunedol sydd a diddordeb mewn grantiau ARFOR 2 neu eraill i gysylltu efo Busnes Cymru neu Hwb Menter am wybodaeth ac arweiniad.

Cymunedau Mentrus: Cronfa Rhaglen ARFOR Lleol ar Ynys Môn

Mae’r cynllun grant newydd yma yn targedu mentrau masnachol, cymdeithasol, chydweithredol a cymunedol sydd yn anelu at gadw a chynyddu cyfoeth yn lleol mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (rhanbarth ARFOR).

Rhaglen ARFOR 1 (daeth i ben Mawrth 2021)

Yn 2019, darparwyd £2 miliwn gan Lywodraeth Cymru i Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i dreialu dulliau arloesol o gefnogi'r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a gwireddu’r targedau canlynol :

  • Hybu mentrau a chefnogi twf busnes mewn ardaloedd lle mae canran uchel o’r bobl yn siarad Cymraeg
  • Sicrhau swyddi gwell sy’n talu’n well i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hyn ac annog pobl sydd wedi gadael i ddod yn ôl
  • Hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd a’r Gymraeg mewn busnesau
  • Annog busnesau a phobl sy’n symud i ardaloedd gwledig i werthfawrogi a defnyddio’r Gymraeg

Cynlluniau ARFOR 1 Ynys Môn

Darparwyd £468k i Ynys Mon mewn cyllid refeniw dan Arfor 1, a hefyd fe sicrhawyd £160k mewn cyllid Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn 2021.

Fe beilotwyd sawl cynllun yma, gyda 75 grant yn cefnogi:

  • 42 busnes yn bodoli a 18 busnes newydd
  • 60.5 swydd newydd a 108.5 swydd yn bodoli
  • 36 cynnyrch neu wasanaeth newydd
  • mwy na £750,000 o fuddsoddi preifat
  • 48 busnes yn cynnyddu eu defnydd o’r Gymraeg

Y sector preifat fu'n gweithredu mwyafrif y cynlluniau. Trefnwyd y grantiau gan y Cyngor Sir a Menter Iaith Môn, gyda chymorth hefyd gan Busnes Cymru a'r Hwb Menter.

Defnyddwyd cyllid ARFOR hefyd i ddylunio’r canlynol i hyrwyddo gwerth a defnydd y Gymraeg ymysg pobl a busnesau:

Llwyddo’n Lleol 2050

Bu ymgyrch ar draws Gwynedd a Môn drwy Menter Mon i hyrwyddo a codi ymwybyddiaeth am entrepreneuriaeth a cyfleon gwaith lleol cyffrous sydd yn bodoli rŵan ac yn y dyfodol i bobl ifanc. Rhoddwyd cefnogaeth/profiad busnes i 14 o bobl ifanc.

Prosiectau rhanbarthol

Bu’r siroedd yn cydweithio ar nifer o weithgareddau. Comisiynwyd cwmni Wavehill i werthuso’r gweithgareddau a llunio argymhellion i’r dyfodol, a cafodd Golwg 360 eu comisiynu i hyrwyddo storiau ARFOR drwy Bwrlwm Arfor. Rheolwyd y cynlluniau rhanbarthol yma gan Gyngor Gwynedd fel y corff arweiniol.

Gwerthusiad

Cafodd y gwerthusiad allanol o raglen ARFOR 1 gan Wavehill ei ddefnyddio i gefnogi proses cynllunio ARFOR 2 a mae copi ar gael ar wefan ARFOR.

Mae gwerthusiad lleol mewnol o Arfor 1 ar Ynys Môn hefyd wedi ei wneud ac mae copi ar gael ar y dudalen hon i'w lawrlwytho.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

arfor_partner_logos.jpg-800

WG_positive_40mm jpg - logo